<p>Busnesau Bach yng Ngorllewin Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:30, 21 Mawrth 2017

Brif Weinidog, rwy’n parhau i dderbyn etholwyr a busnesau yng ngorllewin Cymru yn cysylltu â fi ynglŷn â threthi busnes. Er bod eich Llywodraeth chi wedi cyhoeddi arian ychwanegol i fusnesau ar y stryd fawr, mae yna lawer o ddryswch, ac mae yna nifer o fusnesau sydd ddim yn gwybod pwy sy’n gymwys i dderbyn y cymorth hwn. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn llawer mwy clir ynglŷn â phwy sydd yn gymwys? Hefyd, a allwch chi ddweud wrthym ni pam roedd y Llywodraeth eisiau targedu busnesau ar y stryd fawr, heb gynnwys busnesau eraill?