1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau bach yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0511(FM)
Mae cymorth busnes ar gael i entrepreneuriaid ac i fusnesau micro, bach a chanolig ym mhob rhan o Gymru trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru. Ein ffocws ar hyn o bryd yw cefnogi entrepreneuriaid arloesol, swyddi a’r economi.
Brif Weinidog, rwy’n parhau i dderbyn etholwyr a busnesau yng ngorllewin Cymru yn cysylltu â fi ynglŷn â threthi busnes. Er bod eich Llywodraeth chi wedi cyhoeddi arian ychwanegol i fusnesau ar y stryd fawr, mae yna lawer o ddryswch, ac mae yna nifer o fusnesau sydd ddim yn gwybod pwy sy’n gymwys i dderbyn y cymorth hwn. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn llawer mwy clir ynglŷn â phwy sydd yn gymwys? Hefyd, a allwch chi ddweud wrthym ni pam roedd y Llywodraeth eisiau targedu busnesau ar y stryd fawr, heb gynnwys busnesau eraill?
Beth rydym wedi targedu yw trio helpu’r rheini sydd wedi colli allan, a’u helpu nhw dros dro, o achos y ffaith bod adnewyddu wedi bod o’r trethi busnes. Mae lot fawr o bobl wedi elwa o achos hynny—lot o fusnesau, wrth gwrs, sydd yn dawel, sydd wedi gweld cwymp yn y trethi maen nhw’n eu talu. Ond mae yna gynllun mewn lle er mwyn helpu busnesau bach yn enwedig sydd wedi gweld twf a chynnydd yn eu trethi nhw.
Mae ffigurau o fanc Lloyds wedi dangos bod 40 y cant yn llai o fusnesau wedi cael eu sefydlu yn y pum mlynedd diwethaf yma yn sir Benfro, Gwynedd, Ceredigion a sir Fôn, i gymharu gyda chwymp o 26 y cant ar draws Cymru ac 20 y cant yn Lloegr. A ydy’r Prif Weinidog yn fodlon edrych i fewn i’r rhesymau pam fod y ffigurau mor wahanol yn y siroedd gorllewinol o’u cymharu, yn nodweddiadol, gyda llefydd fel Blaenau Gwent, lle gwelwyd cwymp o dim ond 8 y cant? Mae’r wobr yn mynd i Ferthyr, lle roedd cwymp o llai na 0.5 y cant. A ydy’r Prif Weinidog yn fodlon gofyn i’w Weinidogion i edrych ar y mater yma o beth sy’n digwydd yn y gorllewin yn uniongyrchol ar y pwnc yma?
Rwy’n credu eich bod chi’n sôn am ffigurau banc Lloyds. Nid ydym yn gwybod beth yw’r fethodoleg maen nhw wedi’i ddefnyddio, nac, wrth gwrs, beth yn gwmws yw natur y ‘data set’. Wrth ddweud hynny, mae’r nifer o enedigaethau busnes wedi cynyddu o 8,225 yn 2011 i 11,525 yn 2015. Ond, wrth gwrs, fe wnawn ni ystyried y ffigurau sydd wedi dod o fanc Lloyds, er mwyn gweld os oes unrhyw fath o broblem fan hyn sydd eisiau ei datrys mewn un rhan o Gymru.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddwy gronfa buddsoddiad busnes newydd o £7 miliwn yr un. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ymhen dim ond pum wythnos. Digwyddodd yr un peth gyda'r gronfa twf a ffyniant y llynedd. Fe’i cyhoeddwyd ar 17 Medi y llynedd ac roedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau mawr bedair wythnos yn unig yn ddiweddarach. Mae Llywodraeth yr Alban wedi creu cronfa £500 miliwn â ffenestr agored ar gyfer ceisiadau dros dair blynedd. Mae’n ymddangos ein bod ni’n rhedeg y sioe drwy: bob tro y mae Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i rywfaint o arian i lawr cefn soffa Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, mae’n cyhoeddi cronfa newydd, ac mae'n cael ei chau cyn i’r rhan fwyaf o fusnesau gael y cyfle i glywed amdani. Y gwrthwyneb i strategol yw hyn, a byddwn yn dweud wrth y Prif Weinidog, yn dyner, ei fod yn gwneud i Gymru edrych yn amaturaidd.
Wel, mae ein cyfradd ddiweithdra yn well na'r Alban, a dweud y gwir. Mae ein twf economaidd yn well na'r Alban. Rydym ni wedi gwneud yn llawer gwell na Llywodraeth yr Alban yn hynny o beth. A gaf i hefyd ddweud bod y cynlluniau y mae ef wedi cyfeirio atynt wedi eu gordanysgrifio? Efallai fod y ffenestr yn fyr, ond serch hynny, mae'r cynlluniau’n boblogaidd, maen nhw’n cyflawni ac mae eu hystadegau economaidd yn dangos hynny.