<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:51, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Faint o adroddiadau sydd eu hangen arnom ni, Brif Weinidog? Nododd yr adroddiad bod 9 y cant o gleifion nad oeddent yn cael digon o ddŵr i'w yfed. Ceir meysydd eraill lle na fu unrhyw gynnydd o gwbl—dim cynnydd ar system gwybodaeth arlwyo gyfrifiadurol, a nodwyd y broblem honno yn ôl yn 2011. Nid oes gan yr un bwrdd iechyd gyfarwyddwr penodedig yn gyfrifol am faeth, ac nid oes yr un bwrdd iechyd wedi sicrhau cydymffurfiad o 100 y cant â hyfforddiant llwybr gofal maethol, er ei fod yn orfodol ers ei gyflwyno yn 2011.

Mae’r hyn y byddwch chi’n ei glywed gan reolwyr yn wahanol iawn i'r hyn yr ydym ni, fel Aelodau Cynulliad, yn ei glywed gan gleifion a’n hetholwyr. Pryd gallwn ni ddisgwyl gweld rhywfaint o arweinyddiaeth gennych chi o ran maeth mewn ysbytai? Pryd y byddwn ni’n mynd y tu hwnt i ymddiheuriadau a honiadau o wersi a ddysgwyd i weld bod yn rhaid atal y problemau syml, sylfaenol hyn yn y GIG cyn iddyn nhw achosi niwed difrifol i rai o'n cleifion?