1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Mawrth 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. A gaf i, yn gyntaf oll, ddymuno pen-blwydd hapus i chi, Brif Weinidog? Fel rhywun sydd â blynyddoedd lawer i fynd cyn i mi gyrraedd y garreg filltir o 50, edrychaf ymlaen efallai at glywed gennych chi sut brofiad yw hwnnw. [Chwerthin.] Ond dymunaf yn dda iawn i chi ar eich pen-blwydd heddiw, a hoffwn hefyd anfon dymuniadau gorau at Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig sydd, yn amlwg, yn gwella ar hyn o bryd, a gobeithio y bydd hi yn ôl gyda ni cyn gynted â phosibl.
Ddoe, Brif Weinidog, llofnodwyd bargen ddinesig Abertawe gan y ddwy Lywodraeth ac, yn amlwg, y partneriaid a weithiodd i lunio’r fargen honno—yr awdurdodau lleol ac, yn bwysig, busnesau a oedd yn rhan o greu'r cyfuniad o brosiectau a fydd, gobeithio, yn codi lefelau GYG a sgiliau cyflogadwyedd a'r rhagolygon i ddinas-ranbarth Abertawe. Rwy’n sôn yn benodol am 'ranbarth', gan nad Abertawe yn unig yr ydym ni’n ei hystyried yma. Fodd bynnag, awgrymwyd i bobl, ac nid yn afresymol, nad yw hyn yn debyg iawn i'r hyn yr oedd Syr Terry Matthews yn siarad amdano pan gyflwynwyd hyn ganddo, fel cadeirydd bwrdd y ddinas-ranbarth, ar y cychwyn tua blwyddyn yn ôl, a bod y cysyniad wedi symud oddi wrth bobl a mwy at adeiladau. A ydych chi’n rhannu'r safbwynt hwnnw, a’r safbwynt, mewn gwirionedd, y gallai’r cytundeb sydd o’n blaenau fod yn un 'adeiladu i bobl ddod', yn hytrach na buddsoddi ym mhobl y rhanbarth?
Na, nid wyf yn credu bod hynny'n deg. Mae'r cytundeb ei hun yn gytundeb y bu’n rhaid ei gytuno drwy'r awdurdodau lleol a chan Lywodraeth y DU a chyda ni. Mae'n hollol gywir i ddweud y bydd bron i hanner y buddsoddiad a fydd yn dod yn dod o’r sector preifat—mae'n enghraifft dda iawn o'r hyn sy'n digwydd pan fydd Llywodraethau’n cydweithredu; mae'n enghraifft dda iawn o'r hyn sy'n digwydd pan fydd y sector cyhoeddus a phreifat yn cydweithredu hefyd. Bwriedir i’r 11 prosiect a fydd yn cael eu hariannu greu dros 10,000 o swyddi, felly nid yw'n ymwneud ag adeiladau; mae'n ymwneud â chreu swyddi a chyfleoedd i bobl, ac mae hynny'n rhywbeth y mae’r ddwy Lywodraeth a'r awdurdodau lleol yn ffyddiog fydd yn digwydd.
Ac ydych chi’n hyderus, Brif Weinidog, gyda'r cytundeb hwn, y bydd GYG, sydd tua 74 y cant o lefel y DU yn ninas-ranbarth Abertawe, yn cynyddu dros 15 mlynedd y cytundeb. Felly, a allwch chi roi dangosyddion pendant i ni y byddwch chi’n eu meincnodi, ac y bydd eich Llywodraeth yn eu meincnodi, fel llwyddiant? Beth allwn ni ei ddisgwyl ymhen tair, pump, wyth a 10 mlynedd pan fydd y cytundeb hwn yn cael ei gyflwyno, fel y gallwn eich marcio chi a Llywodraeth y DU a'r partneriaid ar gynnydd i lefelau GYG yn y maes hwn? Oherwydd mae’n hanfodol bod pobl yn gallu gweld cyfoeth a chyfleoedd yn cynyddu, yn hytrach na rhai o'r sylwadau bachog yr ydym ni wedi eu cael ar fentrau adfywio eraill sydd efallai wedi digwydd yn y gorffennol.
Ceir problem yng Nghymru, fel sydd yn y DU a dweud y gwir, ynghylch cynhyrchiant. Nid oes unrhyw fwled arian hawdd sy'n ymdrin â chynhyrchiant, ond un maes lle gellir gwella cynhyrchiant yw drwy sgiliau a darparu i bobl drwy’r sgiliau hynny swyddi sy'n talu'n well. Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig sut yr ydym yn barnu a yw'r cynllun yn llwyddiannus. Ceir dwy ffordd o fesur: yn gyntaf oll, cynnydd i GYG y pen ac yn ail, cynnydd i GYG y pen o’i gymharu â gweddill Cymru a gweddill y DU. Rwy’n disgwyl gweld y ddau beth hynny yn cael eu cyflawni.
Rwy’n croesawu hynny. Byddwn wedi hoffi, efallai, marc mwy pendant o ran ble y byddech chi’n hoffi gweld GYG yn tyfu iddo o ble y mae ar hyn o bryd, sef 74 y cant. Ond mae'n bwysig bod gan Gaerdydd fargen ddinesig a bod gan dinas-ranbarth Abertawe fargen ddinesig. Yn amlwg, mae’r gogledd mewn angen dybryd i’r cytundeb twf gael ei gyflawni. Ddoe yn 'The Guardian', cyhuddwyd Prif Weinidog y DU gennych o fod yn fyddar o ran gwrando ar bryderon a godwyd gennych ynghylch datganoli ac efallai ffabrig cyfansoddiadol y DU. Un peth sydd wedi dod allan o’r gogledd, o’r bwrdd uchelgais yn arbennig, yw'r gallu i Lywodraeth Cymru ddatganoli cyfrifoldeb i’r gogledd fel bod y pwerau hynny o ran ardrethi busnes, er enghraifft, o ran sgiliau ac o ran trafnidiaeth—rwy’n sylweddoli bod problemau ynghylch ardrethi busnes—ond o ran sgiliau a thrafnidiaeth, byddai mwy o synergedd rhwng y Northern Powerhouse a gogledd Cymru i greu gwell sbardun ar gyfer ffyniant economaidd yn y gogledd. A wnaiff eich Llywodraeth ystyried yn weithredol datganoli cyfrifoldebau allan o Barc Cathays, neu a fyddwch chithau yn fyddar i'r ceisiadau sy'n dod allan o’r gogledd gan fusnesau ac arweinwyr cyngor pan eu bod yn gofyn i chi am y cyfrifoldebau hyn?
Wel, nid oes unrhyw anhawster â'r hyn y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei ddweud. Mae’r fargen ddinesig hon i Gaerdydd a chytundeb Bae Abertawe yn cael eu hysgogi gan awdurdodau lleol. Nid yw'n rhywbeth yr ydym ni’n ceisio ei orfodi; bydd yr un peth yn berthnasol i gytundeb twf gogledd Cymru. Fe wnes i’r pwynt ddoe: nid yw hyn yn ymwneud â de Cymru, na chydag ardaloedd trefol mawr yn wir. Dyma’r ddau gytundeb a oedd yn barod gyntaf oherwydd y gwaith rhwng awdurdodau lleol. Y gogledd-ddwyrain, yn arbennig, fyddai’n dod nesaf, a’n nod fydd datganoli cymaint o bwerau ag y gallwn, yn y dyfodol. O ran ardrethi busnes, mae'n anoddach oherwydd, gydag ardrethi busnes, rydym ni’n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol a fyddai ar eu colled pe byddai ardrethi busnes yn cael eu datganoli. Ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymaint o benderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol â phosibl, ac mae hynny'n golygu’n sicr bod awdurdodau lleol wrth y llyw, yn cydweithio i ddarparu ar gyfer eu rhanbarthau ac yn gweithio ar draws ffiniau, wrth gwrs, gan greu ffyniant ar y ddwy ochr i’r ffin.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn innau ddymuno pen-blwydd hapus i'r Prif Weinidog, hefyd, a’i sicrhau, wrth i chi heneiddio, nad oes unrhyw beth i'w ofni cyn belled â'ch bod yn parhau i fod mewn iechyd perffaith fel fi. Bydd y Prif Weinidog yn cytuno—[Torri ar draws.] Bydd y Prif Weinidog yn cytuno, rwy'n siŵr, beth bynnag fo’n gwahanol safbwyntiau ar Brexit, bod ansicrwydd i’w resynu, ac mae Prif Weinidog y DU, o leiaf, ar fin datrys un ansicrwydd drwy sbarduno erthygl 50. Mae'n anffodus, fodd bynnag, bod Nicola Sturgeon bellach wedi ceisio creu ansicrwydd arall dros refferendwm yn yr Alban, gan fod yn ffyddiog, heb os, y byddai Prif Weinidog y DU yn gwrthod ei chais. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r ffordd orau o leihau’r ansicrwydd penodol hwn yw derbyn her Nicola Sturgeon a chynnal refferendwm.
Wel, yn gyntaf oll, dylwn ddiolch i arweinydd UKIP ac, yn wir, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am eu dymuniadau da, o wahanol safbwyntiau, yn wir, yn hynny o beth. Ond fy marn i yw, ac rwyf i wedi dweud hyn yn gyhoeddus, os bydd Senedd yr Alban yn pleidleisio i gynnal refferendwm, ni ddylai Llywodraeth y DU atal Senedd yr Alban, ddim mwy nag y dylai’r Comisiwn Ewropeaidd neu Senedd Ewrop fod wedi atal y DU rhag cynnal refferendwm ar Brexit. Rwy'n credu ei bod yn iawn os bydd Senedd yr Alban yn cefnogi refferendwm ac yn edrych ar ddyddiad penodol, y dylai safbwyntiau Senedd yr Alban gael eu parchu.
Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog yn dweud hynny, oherwydd rwy’n cytuno ag ef mai anaml iawn y mae’n anghywir i ymgynghori â phobl ar fater pwysig fel hwn. Pe byddai ymgyrch refferendwm, byddai hefyd yn berthnasol i Gymru i ryw raddau, gan fod gan yr Alban ddiffyg yn y gyllideb o £15 biliwn y flwyddyn, er ei bod yn economi fwy na Chymru, ac mae’n debyg iawn i’r ffigur sydd gennym ni yma—diffyg o £15 biliwn. Mae hynny, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o arian o un rhan o'r DU i un arall, a fyddai'n diflannu pe byddai Cymru neu'r Alban yn dod yn wleidyddol annibynnol.
Wel, nid wyf i’n credu bod annibyniaeth o fudd i Gymru. Rwy'n ymwybodol o'r trosglwyddiadau ariannol sylweddol sy'n digwydd ac sy'n dod i Gymru, a dyna pam yr wyf yn ddatganolwr pybyr, ond nid yn rhywun sy'n cefnogi annibyniaeth.
Mae'n bwysig iawn, rwy’n meddwl—dylai pob un ohonom ni sy'n credu yng nghyfanrwydd y Deyrnas Unedig aros yn unedig ar y pwynt hwn y byddai Cymru, mewn gwirionedd, yn llawer tlotach pe byddai'n gadael y Deyrnas Unedig, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gellid mantoli unrhyw doriad i unrhyw gyllideb gan adran y DU a fyddai'n cael ei ddatganoli i Gymru wedyn mewn unrhyw ffordd arall. Felly, gan fod gwariant cyhoeddus bron i 60 y cant o CDG Cymru erbyn hyn, byddai’n ergyd fawr i’r holl bobl dlawd ac agored i niwed, ac i bawb sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaethau cymdeithasol eraill ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant.
Mae’r achos dros annibyniaeth gan y rhai sy'n ei ddadlau yng Nghymru wedi ei seilio nid ar yr economi, yn fy marn i, ond ar emosiwn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni warchod yn ei erbyn, yn fy nhyb i, yw nad yw'r achos emosiynol yn gorlethu'r un economaidd, a dyna pam mae’n hynod bwysig, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod gennym ni strwythur ar waith sy'n adlewyrchu partneriaeth briodol o bedair gwlad y DU, ond nid yw'n achos o Lywodraeth y DU yn gorfodi ei hewyllys mewn meysydd datganoledig ar y Llywodraethau datganoledig, a bod gennym ni hefyd broses ddyfarnu annibynnol ar gyfer plismona rheolau marchnad sengl mewnol y DU. Rwy'n credu mai dyna’r ffordd ymlaen—parch at bedair hunaniaeth genedlaethol y DU, yn ogystal â hunaniaethau eraill o fewn y DU. Byddai hynny, i mi, yn cynrychioli canlyniad da iawn i Gymru. Ond fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth y DU—fe wnes i ddweud bod clust fyddar, er bod y cyfarfod ddoe yn well, mae’n rhaid i mi ddweud, nag unrhyw un yr ydym ni wedi ei gael yn y gorffennol. Mae'n bwysig iawn nad yw Llywodraeth y DU ei hun yn creu'r amodau lle mae pobl yn teimlo'n ddigon ddig i fabwysiadu’r safbwynt nad ydynt yn credu bod y DU yn werth ei chadw. Nid yw hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei weld.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Wel, mae'n amlwg bod Cymru mor gyfoethog ac mor llewyrchus mai’r status quo yw'r unig ddewis i ni, ynte? Brif Weinidog, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu nifer o sgandalau yn ymwneud ag ansawdd triniaeth rhai cleifion mewn rhai wardiau yn y GIG yng Nghymru. Pa mor hyderus ydych chi fod y systemau ar gyfer nodi a chywiro problemau yn ddigon cadarn erbyn hyn i atal sgandal arall tebyg i Dawel Fan neu Dywysoges Cymru?
Rydym ni’n hyderus y byddai’r strwythurau sydd ar waith nawr yn osgoi’r sefyllfaoedd hynny, a’u bod yn gadarn.
Brif Weinidog, un maes o driniaeth ysbyty lle nodwyd problemau yn rheolaidd yw maeth a hydradiad mewn ysbytai. Mae maeth yn yr ysbyty yn angen gofal iechyd sylfaenol, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi ar hynny. Nawr, ddoe, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad arall ar faeth, ac mae hyn bum mlynedd ar ôl yr adroddiad diwethaf ar faeth. Canfu'r adroddiad, a dyfynnaf,
‘gwnaethom ganfod diffyg arweinyddiaeth, diffyg gweithgarwch a chynnydd rhwystredig o araf mewn sawl maes pwysig.’
Rydych chi’n honni eich bod wedi cyflwyno mentrau newydd i ddatrys hyn. Pam nad ydynt wedi llwyddo eto, a pha resymau allwch chi eu rhoi am y cynnydd araf o ran maeth mewn ysbytai?
Wel, wrth gwrs, ceir proses ffurfiol ar gyfer ymateb i adroddiadau, ond mae'n iawn i ddweud bod maeth a hydradiad yn hynod bwysig. Tynnodd yr adroddiad sylw at gynnydd da a wnaed mewn nifer o feysydd, ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig cael adroddiadau fel hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod cymaint o welliant ag y byddai bob un ohonom yn dymuno ei weld.
Faint o adroddiadau sydd eu hangen arnom ni, Brif Weinidog? Nododd yr adroddiad bod 9 y cant o gleifion nad oeddent yn cael digon o ddŵr i'w yfed. Ceir meysydd eraill lle na fu unrhyw gynnydd o gwbl—dim cynnydd ar system gwybodaeth arlwyo gyfrifiadurol, a nodwyd y broblem honno yn ôl yn 2011. Nid oes gan yr un bwrdd iechyd gyfarwyddwr penodedig yn gyfrifol am faeth, ac nid oes yr un bwrdd iechyd wedi sicrhau cydymffurfiad o 100 y cant â hyfforddiant llwybr gofal maethol, er ei fod yn orfodol ers ei gyflwyno yn 2011.
Mae’r hyn y byddwch chi’n ei glywed gan reolwyr yn wahanol iawn i'r hyn yr ydym ni, fel Aelodau Cynulliad, yn ei glywed gan gleifion a’n hetholwyr. Pryd gallwn ni ddisgwyl gweld rhywfaint o arweinyddiaeth gennych chi o ran maeth mewn ysbytai? Pryd y byddwn ni’n mynd y tu hwnt i ymddiheuriadau a honiadau o wersi a ddysgwyd i weld bod yn rhaid atal y problemau syml, sylfaenol hyn yn y GIG cyn iddyn nhw achosi niwed difrifol i rai o'n cleifion?
Rydym ni eisoes wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr o ran bwyta'n iach. Rydym ni’n ystyried ffyrdd o wella'r ddarpariaeth o fwyd iach mewn ysbytai hyd yn oed ymhellach, gan gynnwys adolygiad o safonau gorfodol sydd ar y gweill. Ac fel y dywedais yn gynharach, mae’r datganiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cydnabod y gwelliannau enfawr a wnaed eisoes gan y GIG. Dywedodd yr archwilydd cyffredinol, yn ei adroddiad, ei fod yn cydnabod bod cyrff y GIG wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu'r argymhellion a wnaed ganddo fe a chan y pwyllgor, a bod dwy ran o dair o'r argymhellion wedi eu gweithredu’n llawn, a bod gwaith parhaus yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r argymhellion hynny nad ydynt yn gyflawn hyd yn hyn. Felly, mae'r rhan fwyaf wedi eu gwneud. Mae rhai nad ydynt wedi eu gwneud eto, ond yr hyn sy'n eglur o'r hyn a ddywedwyd gan yr archwilydd cyffredinol yw bod yr hyn sydd ar ôl i'w wneud wrthi’n cael ei wneud.