Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 21 Mawrth 2017.
Gwell swyddi yn nes at adref—i fy etholwyr i, beth mae hyn yn ei olygu yw creu swyddi o ansawdd yn y gogledd-orllewin, ac mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddangos y ffordd efo hyn, ac i gael polisïau cwbl fwriadus i wasgaru swyddi Llywodraeth ar draws Cymru. Pryd, felly, mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu diwygio ei strategaeth lleoli swyddi? Mae angen cynnwys meini prawf penodol newydd a fyddai’n arwain ar ddosbarthu swyddi Llywodraeth Cymru mewn ffordd gyfartal ar draws Cymru. Rydw i’n awgrymu eich bod chi yn diwygio’r strategaeth lleoli swyddi ar frys cyn i bobl y gogledd golli pob ffydd yn eich Llywodraeth.