<p>Gwell Swyddi yn Nes at Adref</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 21 Mawrth 2017

Mae hynny’n hollol annheg o gofio’r ffaith mai ni, fel Llywodraeth, wnaeth agor Cyffordd Llandudno. Ni fel Llywodraeth oedd â swyddfa yng Nghaernarfon. Ni fel Llywodraeth sydd wedi symud mwy o swyddi mas o Gaerdydd nag erioed o dan y Swyddfa Gymreig, gyda swyddi ar draws Cymru. Nid yw’n bosibl cael swyddfa ym mhob lle, yn amlwg, ond mae’n record ni yn un da dros ben ynglŷn â symud swyddi, yn enwedig i’r gogledd. Mae mwy o swyddi yn y gogledd nawr—pobl sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru—nag oedd erioed yn wir ynglŷn â sefyllfa’r Swyddfa Gymreig.