Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 21 Mawrth 2017.
Wel, yn gyntaf oll, ni fu unrhyw ymateb ffurfiol i'r Papur Gwyn yr ydym ni wedi ei lunio. Yn ail, cynlluniwyd y Bil diwygio mawr, fel y’i gelwir, i fod yn Fil a fydd yn cadw—felly y dywedir wrthym—cyfraith yr UE yn awdurdodaethau’r DU a chyfreithiau gwahanol rannau a gwahanol wledydd y DU. Os mai dyna’r cwbl y mae'n ei wneud, yna mae'n synhwyrol. Fodd bynnag, yr hyn na fyddem yn ei dderbyn—a dweud y gwir, byddem yn gwrthwynebu hyn i’r carn—yw unrhyw awgrym y bydd pwerau presennol yn cael eu cydio’n ôl, neu y dylai pwerau sy’n dychwelyd o Frwsel orwedd, hyd yn oed am gyfnod o amser, yn San Steffan. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn wyliadwrus iawn ohono, a byddwn yn archwilio’r Bil diddymu mawr yn ofalus iawn i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Ac ni fyddwn yn cefnogi hynny os cynigir hynny yn rhan o'r Bil hwnnw.