1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2017.
4. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sefydlu confensiwn cyfansoddiadol? OAQ(5)0517(FM)
Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i wedi bod yn galw ers nifer o flynyddoedd am gonfensiwn cyfansoddiadol i ystyried llywodraethiad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac mae'r heriau a ddaw yn sgil gadael yr UE yn gwneud yr achos dros gonfensiwn o'r fath hyd yn oed yn gryfach.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna ac rwy’n ei longyfarch am godi’r mater pwysig iawn hwn ers cymaint o flynyddoedd. A fyddai'n cytuno bod cyfansoddiad anysgrifenedig y DU yn anghynaladwy, o ystyried gadael yr UE a chyda'r bygythiad o ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban?
Wel, mae sofraniaeth seneddol a'r syniad bod yr holl rym yn dod o un lle yn San Steffan, sydd â'r gallu i wneud beth bynnag y mae’n dymuno, wrth wraidd y broblem, wrth i ni adael yr UE. Nid wyf yn credu mai dyna'r dull cywir. Rwy'n credu y ceir sawl canolfan o atebolrwydd democrataidd, ac mae’r Cynulliad hwn yn un ohonynt. I mi, mae’n rhaid i’r DU symud mwy at system o sofraniaeth a rennir. Mae'n gweithio yng Nghanada. Nid yw'n creu ansefydlogrwydd. Mae Canada yn un o'r gwledydd mwyaf ffyniannus a diogel yn y byd, ond mae'n rhaid i ni symud oddi wrth y syniad hwn bod popeth, rywsut, yn israddol i San Steffan a Senedd y DU yn San Steffan. Nid dyna'r model rwy’n credu—. Efallai ei fod wedi gweithio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nid dyna’r model sy'n mynd i weithio yn y ganrif hon.
Roeddwn i’n siomedig mai ymateb y Prif Weinidog i ddatblygiadau yr wythnos diwethaf oedd yr hyn a oedd yn swnio fel galwadau am gonfensiwn cyfansoddiadol mewnol i’r Blaid Lafur. Ond wrth symud ymlaen, rydym ni’n gwybod bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru ar Ewrop wedi ei wrthod yn bendant gan Lywodraeth y DU. Rydym ni’n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i gael un dull ar gyfer y DU gyfan ar gyfer trafodaethau’r UE cyn sbarduno erthygl 50. Nid yw hyn yn argoeli'n dda i’r Bil diddymu mawr ddisgwyliedig a deddfwriaeth gysylltiedig, ond ceir cymal ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru—mae'n debyg y gellid ei alw’n erthygl 132—sy’n golygu y gallai'r Prif Weinidog sbarduno, a fyddai'n golygu dod â Bil dilyniant i'r Cynulliad hwn nawr, gan ragweld y Bil diddymu, i amddiffyn cyfansoddiad presennol Cymru rhag ymgais gan San Steffan i gydio pŵer.
Wel, yn gyntaf oll, ni fu unrhyw ymateb ffurfiol i'r Papur Gwyn yr ydym ni wedi ei lunio. Yn ail, cynlluniwyd y Bil diwygio mawr, fel y’i gelwir, i fod yn Fil a fydd yn cadw—felly y dywedir wrthym—cyfraith yr UE yn awdurdodaethau’r DU a chyfreithiau gwahanol rannau a gwahanol wledydd y DU. Os mai dyna’r cwbl y mae'n ei wneud, yna mae'n synhwyrol. Fodd bynnag, yr hyn na fyddem yn ei dderbyn—a dweud y gwir, byddem yn gwrthwynebu hyn i’r carn—yw unrhyw awgrym y bydd pwerau presennol yn cael eu cydio’n ôl, neu y dylai pwerau sy’n dychwelyd o Frwsel orwedd, hyd yn oed am gyfnod o amser, yn San Steffan. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn wyliadwrus iawn ohono, a byddwn yn archwilio’r Bil diddymu mawr yn ofalus iawn i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Ac ni fyddwn yn cefnogi hynny os cynigir hynny yn rhan o'r Bil hwnnw.
Brif Weinidog, rwy’n credu mai’r broblem gyda chonfensiwn cyfansoddiadol yw na allwch chi wir gael un tan ar ôl yr ail refferendwm yn yr Alban, sydd, ar ryw adeg yn y dyfodol, yn edrych fel posibilrwydd. Rwy’n meddwl tybed a ddylai eich nodau mwy uniongyrchol fod gyda Phrif Weinidog y DU i weld sut y gallai system y Cydbwyllgor Gweinidogion gael ei chryfhau. Rwy’n cymeradwyo sylwadau Mr Drakeford ar sut y gallai hynny ddigwydd, os nad yr arddull a ddefnyddiodd i’w gwneud. Rwy’n meddwl ei bod yn rhy ddeifiol yn y Senedd pan gymharodd y broses bresennol i Gyngor Cymuned Sain Ffagan. [Chwerthin.] Ond, fe wnaeth rhai pwyntiau diddorol am sut y gallai'r Cydbwyllgorau gael eu gwneud yn fwy cadarn, gydag agendâu, ysgrifenyddiaeth a diben eglur a chynllun gwaith ar gyfer y dyfodol. Dyna beth y dylech chi fod yn canolbwyntio arno.
Dros y ddwy flynedd nesaf, ar ôl sbarduno erthygl 50, ceir cyfle euraidd i ailstrwythuro'r ffordd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud ar draws y DU. Nid oes diben aros tan y bydd y cyfnod hwnnw o amser wedi mynd heibio, oherwydd wedyn byddwn yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad oes unrhyw ffordd o gyflwyno system arall. Beth mae hynny’n ei olygu? Mae'n golygu y dylai'r Cydbwyllgor Gweinidogion esblygu i fod yn gyngor Gweinidogion priodol lle mae penderfyniadau ar y cyd yn cael eu gwneud, pan fo hynny'n briodol, mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae'n ddigon posibl bod rhinwedd mewn cael fframwaith cyffredinol o ran amaethyddiaeth, neu bysgodfeydd yn wir, cyn belled â’i fod wedi ei gytuno. Rydym ni’n gwybod, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod posibilrwydd cryf na fydd rheolau cymorth gwladwriaethol yn gymwys mwyach, ac os felly bydd gennym sefyllfa gwbl agored ym marchnad sengl fewnol y DU. Rwyf wedi crybwyll y term 'cyfraith fasnach'. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl bosibl. Roedd cyfraith fasnach rhwng Iwerddon a'r DU yn y 1930au. Nid yw o fudd i unrhyw un i hynny ddigwydd. Y dewis yn hytrach na hynny yw llunio cyfres o reolau yn y DU, wedi’u cytuno gan bedair Llywodraeth y DU ac, yn bwysig, corff dyfarnu annibynnol sy'n plismona’r rheolau hynny—llys. Mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn cyflawni’r swyddogaeth honno ym marchnad sengl Ewrop; mae Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn cyflawni’r swyddogaeth honno o ran masnach ryng-dalaith yn yr Unol Daleithiau. Nid yw marchnad sengl fewnol heb reolau y cytunwyd arnynt a dull o blismona’r rheolau hynny yn farchnad sengl fewnol briodol. Rwyf eisiau gweld y farchnad sengl fewnol honno’n gweithio’n iawn.
Yn bersonol, rwy’n croesawu'n fawr yr arweinyddiaeth y mae'r Prif Weinidog yn ei dangos ar yr ymgyrch hon i gael confensiwn cyfansoddiadol. Ond, ymhellach i gwestiwn pwysig David Melding, ar hyn o bryd, ac yn dilyn y sesiwn ddiddorol honno a gawsom ddoe, lle'r oedd gennym ni fyfyrwyr y gyfraith o Brifysgol De Cymru yn yr oriel yn ein gwylio, os na fyddwn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb o ran parch y gallech chi ei weld mewn cyngor Gweinidogion a dyfarnu annibynnol hefyd, beth yw eich prognosis, felly, wrth symud ymlaen, wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a newid i fframwaith gwahanol iawn o fewn y DU? Beth yw eich prognosis os na fyddwn yn cael y mecanweithiau hynny ar waith?
Mae perygl y bydd y DU yn dechrau datod. Yn arbennig, un peth nad yw'n cael ei grybwyll yn aml, ond yr wyf yn credu sy’n werth ei nodi, yw’r hyn a allai achosi twf cenedlaetholdeb Seisnig, a phobl yn Lloegr yn teimlo bod y system yn gwneud cam â nhw. Ac rwy’n meddwl y gellir osgoi hyn oll yn weddol hawdd. Gall hunaniaethau cenedlaethol amlwg ein pedair gwlad gael eu cydnabod drwy gydnabod ar yr un pryd y diben cyffredin y mae’r DU yn ei ddarparu, ond mae hynny'n golygu sefydlu strwythur sy'n adlewyrchu'r ffaith fod hon yn bartneriaeth o genhedloedd, yn hytrach na chredu fod hyn yn rhywbeth tebyg i’r wladwriaeth unedol yr oedd y DU ym 1972, cyn iddi ymuno â’r hyn a oedd y Farchnad Gyffredin ar y pryd. Felly, mae modd datrys y materion hyn—nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl am hynny. Mae angen eu datrys fel, pan fydd y DU yn gadael yr UE, y bydd y strwythur hwnnw ar waith eisoes o ran marchnad sengl fewnol y DU, o ran cyngor y Gweinidogion, yn hytrach na'i wneud ychydig flynyddoedd wedi hynny ac yna gadael gwagle. Nid yw hynny o fudd i neb.