Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Codwyd y cyhoeddiad gan Newsquest eu bod yn bwriadu cau eu canolfan is-olygu yng Nghasnewydd ac adleoli i Weymouth yn y Siambr hon o'r blaen. Fodd bynnag, datgelwyd bod Newsquest wedi derbyn £95,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2012-13 o dan raglen Sgiliau Twf Cymru, a £245,000 arall i ehangu ei ganolfan is-olygu y llynedd.
A wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa amodau oedd yn gymwys i’r grantiau hyn a pha gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn cefnogi cyflogaeth yng Nghasnewydd?