Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 21 Mawrth 2017.
Yn 2015, darparwyd £245,808 gennym i'r cwmni tuag at greu 50 o swyddi a diogelu 15 o swyddi yn y cyfleuster ym Maesglas. Aethpwyd y tu hwnt i hynny, ond roedd y dyfarniad yn amodol bod y swyddi yno tan fis Mai 2020. Os na chaiff yr amod hwnnw ei fodloni, yna byddwn yn ceisio adennill yr arian.