<p>Cadwyni Cyflenwi'r Sector Cyhoeddus</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:13, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roedd yn galonogol clywed am y cod ymarfer newydd ar gyfer cyflogaeth foesegol ar gyfer cadwyni cyflenwi i'r sector cyhoeddus yng Nghymru gan ei fod yn dangos arweinyddiaeth wirioneddol. Ond wrth lansio’r cod ymarfer, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

'Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i sicrhau gwell amodau, ac yn bwysicach na hynny amodau tecach, i weithwyr y gadwyn gyflenwi yng Nghymru ac ar draws y byd.'

Felly, a gaf i ofyn am sicrwydd gan y Prif Weinidog y byddwn yn ceisio sicrhau bod hyn yn treiddio’n ddwfn yng Nghymru trwy gyrhaeddiad hir y sector cyhoeddus ac asiantaethau eraill, y trydydd sector ac eraill, ond hefyd defnyddio’r cyrhaeddiad dwfn hwnnw i wledydd eraill, gan gynnwys gwledydd datblygol, fel nad yw ein cadwyni cyflenwi, gan gynnwys y rhannau hynny sy'n dibynnu ar ffynonellau tramor, yn cam-fanteisio ar unrhyw weithiwr yn unrhyw le?