Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 21 Mawrth 2017.
Mae'r cod yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar arferion anghyfreithlon ac anfoesegol sy'n effeithio ar weithwyr yng Nghymru a thu hwnt. Mae angen i ni gael y cyrhaeddiad hiraf posibl ac wrth gwrs sicrhau bod hyn yn digwydd drwy’r sector cyhoeddus yn ogystal â’r sector preifat. Felly, byddwn yn annog busnesau sy'n gweithredu yng Nghymru i gytuno â’r cod hefyd. Bydd hynny’n codi ac yn sicrhau sefyllfa deg i fusnesau moesegol-gyfrifol fel na all y rhai sy'n cyflogi staff yn gyfreithlon ac yn foesegol gael eu tanbrisio gan y rheini nad ydynt.