Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Rwyf wedi bod yn ymdrin ag etholwr y bu’n rhaid i’w gadair olwyn fynd i mewn i gael ei hatgyweirio. Fe’i gadawyd heb gadair addas arall, gan fod hon yn gadair bwrpasol, am dros ddau fis ac nid yw wedi llwyddo i gysylltu ag unrhyw un i gael y newyddion diweddaraf. Dim ond ar ôl i mi gysylltu â phrif weithredwr y bwrdd iechyd lleol y cymerwyd unrhyw gamau. Mae hyn yn annerbyniol. Dywedir wrthyf fod amser aros am gadeiriau olwyn yn ormodol. Sut y gallwn ni obeithio cefnogi pobl anabl i barhau i fod yn aelodau gweithgar o'u cymuned os na allwn ni ddarparu ar gyfer anghenion sylfaenol o'r fath? Brif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gael gwared ar amseroedd aros am gadeiriau olwyn a sicrhau atgyweiriadau prydlon i’r elfen hanfodol hon o gymorth person anabl?