1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2017.
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl i barhau'n aelodau gweithgar o'u cymunedau? OAQ(5)0520(FM)
Mae ein 'Fframwaith Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol' yn nodi ein cynlluniau i gefnogi pobl anabl yng Nghymru i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau. Rydym yn bwriadu adolygu'r fframwaith eleni, gan groesawu, wrth gwrs, egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Rwyf wedi bod yn ymdrin ag etholwr y bu’n rhaid i’w gadair olwyn fynd i mewn i gael ei hatgyweirio. Fe’i gadawyd heb gadair addas arall, gan fod hon yn gadair bwrpasol, am dros ddau fis ac nid yw wedi llwyddo i gysylltu ag unrhyw un i gael y newyddion diweddaraf. Dim ond ar ôl i mi gysylltu â phrif weithredwr y bwrdd iechyd lleol y cymerwyd unrhyw gamau. Mae hyn yn annerbyniol. Dywedir wrthyf fod amser aros am gadeiriau olwyn yn ormodol. Sut y gallwn ni obeithio cefnogi pobl anabl i barhau i fod yn aelodau gweithgar o'u cymuned os na allwn ni ddarparu ar gyfer anghenion sylfaenol o'r fath? Brif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gael gwared ar amseroedd aros am gadeiriau olwyn a sicrhau atgyweiriadau prydlon i’r elfen hanfodol hon o gymorth person anabl?
Wel, mae'n amlwg bod yr etholwr a gysylltodd â chi wedi bod trwy brofiad anodd. Mae angen ymchwilio iddo. A gaf i ofyn i'r Aelod ysgrifennu ataf a byddaf, wrth gwrs, yn ysgrifennu'n ôl ati i ddarparu esboniad i’w hetholwr?
Diolch i’r Prif Weinidog.