Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 21 Mawrth 2017.
Mae'n ddrwg gennyf, dim ond yn gyflym am lais y claf. Ynglŷn â’r gwaith parhaus yr ydym yn sôn amdano o ran y swyddogaeth ansawdd, mae'r AWTTC yn ymgysylltu mewn gwirionedd â grwpiau cleifion, ac unigolion hefyd, felly mae angen inni weld hynny’n parhau fel rhan o'r adolygiad o effeithiolrwydd yr hyn sy'n digwydd hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt sy'n cael ei wneud.