3. 3. Datganiad: Adolygiad o'r Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol

– Senedd Cymru am 2:33 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:33, 21 Mawrth 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar adolygiad o geisiadau cyllido cleifion unigol, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Fis Gorffennaf diwethaf, cyhoeddais sefydlu adolygiad annibynnol o'r broses IPFR—y broses ceisiadau cyllido cleifion unigol. Pwrpas yr adolygiad oedd edrych o'r newydd ar y meini prawf clinigol—y cyfeirir atynt fel rheol fel ‘eithriadoldeb clinigol’—a ddefnyddir i wneud penderfyniadau IPFR a'r potensial i leihau nifer y paneli IPFR yng Nghymru. Rwyf wedi ceisio cadw agwedd agored, gynhwysol a thryloyw tuag at yr adolygiad hwn ers y dechrau. Roedd hynny'n cynnwys yr holl bleidiau gwleidyddol, y cyhoedd a'r GIG yng Nghymru. Er enghraifft, mae llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau wedi chwarae rhan lawn yn y broses gyfan, gan gynnwys sesiynau briffio gyda chadeirydd y grŵp adolygu ar ddechrau a diwedd yr adolygiad. Roedd safbwynt y claf yn elfen gref. Roedd dau o gleifion yn aelodau o'r grŵp adolygu a chynhaliwyd sesiynau trafod ledled Cymru i gleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr a sefydliadau cleifion. Cymerodd y diwydiant fferyllol, byrddau iechyd a chlinigwyr ran lawn, gan roi eu barn am sut y gellid gwella’r broses.

Cyhoeddais adroddiad yr adolygiad ym mis Ionawr eleni, cyn gynted ag yr oedd ar gael, er mwyn i bawb gael cyfle cyn gynted â phosibl i ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion. Ochr yn ochr â hynny, mae fy swyddogion wedi bod yn trafod yr adroddiad â’r byrddau iechyd, Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Cymru Wales a'n harbenigwyr ar feddyginiaethau yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, a gobeithiaf y gwnewch faddau imi am gyfeirio at honno, o hyn ymlaen, fel yr AWTTC. Y consensws yw bod hwn yn adroddiad defnyddiol sy'n gwneud argymhellion meddylgar ac ymarferol a fydd yn helpu byrddau iechyd i ymdrin â'r penderfyniadau sensitif hyn sy’n aml iawn yn rhai cymhleth. Rwy'n arbennig o falch mai llais y claf sydd bwysicaf yn yr adroddiad.

Rwyf nawr yn mynd i ymdrin ag argymhellion y grŵp adolygu am y materion y gofynnwyd iddynt eu hystyried. Mae eithriadoldeb clinigol wedi bod yn egwyddor sylfaenol ac yn sail i benderfyniadau am IPFR ledled y DU. Nid oes dealltwriaeth dda o’r cysyniad, ac mae'n agored i amrywiol ddehongliadau. Mae’r adroddiad yn trafod hyn yn llawn ac yn gwneud argymhellion ymarferol i ddiwygio meini prawf penderfyniadau IPFR, sydd wedi cael croeso cyffredinol. Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys sefyllfaoedd lle ceir argymhelliad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, y byddaf nawr yn cyfeirio atynt fel NICE ac AWMSG yn y drefn honno. Maent hefyd yn cyfeirio at achosion lle nad yw NICE nac AWMSG wedi gwneud argymhelliad. Mae'r grŵp adolygu'n argymell prawf dwy ran newydd i gynnwys, fel pwynt cyntaf, budd clinigol sylweddol i'r claf ac, yn ail, gwerth am arian. Mae hyn yn golygu asesu faint o fudd clinigol a ddisgwylir gan y driniaeth, ac a yw cost y driniaeth yn gymesur â’r buddion disgwyliedig.

O ran a ddylid bod wedi lleihau nifer y paneli IPFR, casgliad y grŵp adolygu oedd bod y risgiau cynhenid ​​wrth symud at un panel cenedlaethol neu leihau nifer y paneli yn negyddu unrhyw ddadl rymus dros newid. Mae'r grŵp adolygu, fodd bynnag, wedi gwneud argymhellion defnyddiol eraill i gefnogi byrddau iechyd i wneud gwelliannau pellach i'r broses. Mae hyn yn cynnwys egluro polisïau comisiynu ac ymgorffori polisi IPFR o fewn y fframweithiau hynny, a chryfhau swyddogaethau cefnogaeth arbenigol ganolog, sicrwydd ansawdd a swyddogaeth llywodraethu yr AWTTC.

Mae byrddau iechyd, gyda chymorth yr AWTTC, eisoes wedi dechrau’r gwaith cychwynnol i ddiwygio'r meini prawf ar gyfer penderfyniadau clinigol gyda'r nod o wneud y newid hwn i'r canllawiau erbyn mis Mai. Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at gadeiryddion byrddau iechyd i gadarnhau'r trefniadau i roi pob un o'r argymhellion ar waith erbyn mis Medi eleni. Bydd yn rhaid i fyrddau iechyd wneud dewisiadau anodd bob amser am y manteision clinigol cymharol yn erbyn y gost a'r gwerth am arian ar lefel cleifion unigol, gan gydbwyso hyn ag anghenion iechyd eu poblogaeth leol. Felly, bydd penderfyniadau IPFR bob amser yn sensitif. Fodd bynnag, gyda'i gilydd, bydd yr holl argymhellion, ar ôl eu rhoi ar waith, yn cael effaith gadarnhaol ar y broses IPFR, gan ei gwneud yn haws ei deall ac yn llai tueddol o gael ei chamddefnyddio.

Mae gan y broses IPFR le o fewn y fframwaith polisi ar gyfer mynediad at driniaeth ar gyfer nifer cymharol fach o unigolion. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r boblogaeth, byddwn yn parhau i sicrhau bod y broses werthuso yn ganolog i’n dull seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod triniaeth glinigol effeithiol a chost-effeithiol ar gael i bobl. Mae'r gronfa driniaeth newydd gwerth £80 miliwn a gyhoeddais ym mis Ionawr yn cefnogi'r ymagwedd hon drwy ddarparu mynediad cynharach at feddyginiaethau newydd a argymhellir gan NICE neu’r AWMSG. Mae'r grŵp adolygu yn cefnogi ein safbwynt polisi o sicrhau bod gwerthuso yn ganolog i benderfyniadau am argaeledd arferol triniaeth. Maent hefyd yn amlygu pwysigrwydd gwerthuso fel y ffordd orau o werthuso effeithiolrwydd clinigol a gwerth am arian. Yn benodol, ryw’n croesawu eu hargymhelliad y dylai'r diwydiant fferyllol gyflwyno eu meddyginiaethau i’w gwerthuso cyn gynted â phosibl ar ôl eu trwyddedu i sicrhau gwerthusiad amserol a thryloyw o'r buddion clinigol.

Mae gennym berthynas dda â’r diwydiant ac â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Cymru Wales. Mae'r ABPI a’r cwmnïau unigol yn ymgysylltu â ni a’r AWMSG am yr agenda werthuso a'r gwaith ehangach ar feddyginiaethau newydd. Cyfrannodd yr ABPI at waith y grŵp adolygu ac maent yn gefnogol i roi argymhellion yr adroddiad ar waith. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i gefnogi ac annog diwydiant i weithio gyda ni a GIG Cymru i sicrhau’r mynediad cynharaf posibl at driniaethau arloesol.

Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r grŵp adolygu yn eu cyfanrwydd am eu hymdrech a'u hymroddiad wrth ymdrin â’r maes cymhleth iawn hwn, gan wneud hynny mewn modd tosturiol a deallus, ac am ddarparu eu hargymhellion o fewn amserlen heriol.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:39, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn hefyd ychwanegu at y geiriau hynny gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sicr yn llongyfarch y panel am adolygiad trylwyr iawn, do, wedi’i gwblhau o fewn amserlen dynn, ac adolygiad yr wyf yn meddwl ei fod yn gwneud nifer o argymhellion pwysig iawn a fydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn gwella bywydau llawer o gleifion. Cafodd yr adolygiad, wrth gwrs, ei sicrhau gan Blaid Cymru yn y cytundeb ôl-etholiad hwnnw, gan ddangos gwir werth cydweithredu pan fo hynny'n briodol, ac mae’r canlyniad, rwy’n meddwl, yn dangos yn glir i mi ein bod yn iawn i fynd ar drywydd hynny. Nid yw'r datrysiadau a gyflwynodd y panel adolygu mewn gwirionedd i gyd fel yr oeddem wedi’u rhagweld fel plaid, nac fel y gwnaethom eu cyflwyno fel cynigion fel plaid, ond mae’r canlyniad, a dyna beth sy'n bwysig. Yn sicr, rwy’n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno nawr i roi argymhellion yr adolygiad ar waith. Rwy'n meddwl y byddai wedi bod yn anodd iddo beidio â rhoi’r argymhellion hynny ar waith. Rydym yn edrych ymlaen, nawr, wrth gwrs, i’w gweld yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol.

Un neu ddau gwestiwn cyflym, oherwydd mae nawr yn fater o beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Yn gyntaf, efallai y gallech egluro ychydig bach mwy am y broses weithredu, er enghraifft, sut y bydd clinigwyr eu hunain yn cael gwybod am y newidiadau a sut y gallant helpu eu cleifion drwy'r broses. Hefyd, rwy’n meddwl bod gwerth llais cleifion yn y broses wedi cael ei ddangos yn glir, ac mae ymrwymiad y panel adolygu wedi dangos hynny. A wnaiff y Llywodraeth nawr ystyried pa ffyrdd y gellir cadw safbwynt y claf yn barhaol o fewn y system, er enghraifft yn y prosesau sicrhau ansawdd a gynlluniwyd i sicrhau cysondeb, sydd, wedi’r cyfan yn un o'r prif elfennau yr ydym yn chwilio amdanynt yn yr adolygiad hwn?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:41, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Wrth gwrs, roedd cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru wrth ddod i gytundeb am y compact i fwrw ymlaen ag adolygiad yn y maes hwn. Ac rydym yna wedi ei ehangu i wneud yn siŵr bod pleidiau eraill wedi cael cymryd rhan yn y sgwrs cyn hynny, ac mae wedi bod, rwy’n meddwl, yn broses synhwyrol ac adeiladol.

O ran y ddau faes holi penodol am ymwybyddiaeth y clinigwyr o’r newid a sut y gallant helpu cleifion drwyddo, roedd hynny’n un o'r heriau yr ydym yn cydnabod ei bod yn bodoli eisoes—bod rhai clinigwyr yn well am esbonio beth yw'r broses a sut i helpu eu cleifion drwy hynny. Yn yr un modd, roedd rhai sylwadau am wneud yn siŵr nad yw’r broses yn cael ei defnyddio yn lle egluro i glaf unigol o’ch blaen chi, fel clinigwr, nad oes opsiwn triniaeth rhesymol yn bodoli. Ac felly mae rhywbeth yma am y gonestrwydd hwnnw yn y sgwrs, nad yw’n hawdd, ond fel yr ydym yn ei gydnabod, nid oes unrhyw gais cyllido claf unigol ynddo’i hun yn hawdd. Felly, mae sensitifrwydd dynol gwirioneddol yn ymwneud â hyn.

Rhan o'r pwynt am yr ymwybyddiaeth yw ein bod yn cael trafodaeth genedlaethol, a bod gan lawer o glinigwyr ddiddordeb pendant iawn yn y drafodaeth ac yn yr adolygiad ei hun ac yn natganiad heddiw. Ond rwyf wedi ei gwneud yn glir y dylai'r meini prawf i gefnogi gwneud penderfyniadau fod wedi eu sefydlu mewn canllawiau erbyn mis Mai. Dylai hynny yn sicr fod yn rhan o sicrhau, yn y cyfnod cyn hynny ac yna ar ôl hynny, bod clinigwyr yn briodol ymwybodol o'r newid i’r canllawiau am y meini prawf gwneud penderfyniadau, ac yna dylai pob un o'r argymhellion cysylltiedig fod ar waith erbyn mis Medi. Ond ni allwch ddianc rhag y ffaith y bydd yn rhaid i glinigwyr ddal i fynd drwy broses sy’n anodd. Nid yw'n fater o arbenigedd technegol wrth benderfynu beth sy’n opsiwn triniaeth priodol; mae’n fater o ryngweithio dynol gyda'u cleifion a sut y maent yn arwain yr unigolyn hwnnw ac yn esbonio beth y gallant ei wneud a’i gwneud yn glir y bydd angen i'r clinigwr ddal i fod yn rhan o’r broses er mwyn cefnogi'r achos o blaid IPFR. Felly, rwy'n siŵr y bydd unigolion yn ein hetholaethau yn dal i gysylltu â chi, â mi ac ag Aelodau eraill am y dewisiadau a’r penderfyniadau penodol hyn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:43, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Angela—mae'n ddrwg gennyf.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, dim ond yn gyflym am lais y claf. Ynglŷn â’r gwaith parhaus yr ydym yn sôn amdano o ran y swyddogaeth ansawdd, mae'r AWTTC yn ymgysylltu mewn gwirionedd â grwpiau cleifion, ac unigolion hefyd, felly mae angen inni weld hynny’n parhau fel rhan o'r adolygiad o effeithiolrwydd yr hyn sy'n digwydd hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt sy'n cael ei wneud.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr iawn am gyflwyno’r datganiad hwn heddiw. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r panel adolygu am gynnal hyn a’m diolch i chi am gynnwys yr holl wrthbleidiau mewn modd mor gynhwysfawr yn y broses gyfan hon. Hoffwn hefyd ddiolch i'r nifer fawr o aelodau'r cyhoedd. Yn arbennig, rwy’n gwybod bod llawer o fy etholwyr wedi cyflwyno eu hachosion ac roeddent yn ddewr iawn i wneud hynny. Rwy'n ddiolchgar i bob un ohonynt, oherwydd rwy’n meddwl bod hwn yn adroddiad cytbwys iawn ac rwyf wrth fy modd eich bod wedi derbyn yr holl argymhellion ac yn bwriadu gweithredu arno.

Serch hynny, hoffwn ofyn un neu ddau o gwestiynau ichi amdano. Mae llawer o hyn yn ymwneud â’r gair 'arwyddocaol'. Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom o amgylch y Siambr hon yn falch iawn na fydd yn rhaid inni ddefnyddio'r cymalau eithriadoldeb mwyach, ond mae'n dweud yma yn eithaf clir,

'Drwy "arwyddocaol", rydym yn golygu y dylai natur y budd sydd i'w ddisgwyl, ac ystyriaeth o gost-effeithiolrwydd yr ymyrraeth, fod yn gymaradwy â’r meini prawf a ddefnyddir fel arfer ar gyfer cleifion y mae eu cyflyrau yn elwa ar ganllawiau HTA'.

Felly, mae 'arwyddocâd' yn amlwg yn air a dderbynnir gan y brif garfan wrth ichi basio meddyginiaeth a dweud ei bod yn iawn i gael ei defnyddio ar lefel gyffredinol, ac nawr, wrth gwrs, rydych yn bwriadu defnyddio'r gair hwnnw, neu mae'r adolygiad yn argymell defnyddio'r gair 'arwyddocaol' ar gyfer clefydau prin a thra amddifad, ar gyfer rhai heb HTA, ac ar gyfer ymyraethau newydd. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi ychydig o eglurder ynghylch sut yr ydym yn diffinio 'arwyddocâd'—sut mae hynny wedi’i ddiffinio a sut y gallwn gael gwared ar unrhyw ddiffyg eglurder ynghylch hynny fel bod pobl yn glir iawn ei fod yn asesiad, wel, rhesymegol iawn, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn ceisio tynnu’r gwres allan o bwnc sy’n emosiynol iawn.

Byddwn yn ddiolchgar iawn hefyd pe gallech roi diweddariad cyflym inni am ble yr ydych yn gweld swyddogaeth ansawdd cenedlaethol newydd yr IPFR. A fyddai'n rhan o un o'r meysydd sydd eisoes yn bodoli, fel—wn i ddim—Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ynteu a fyddwch chi’n sefydlu rhywbeth o fewn eich portffolio eich hun, neu gorff hyd braich annibynnol?

Dim ond dau gwestiwn arall: roedd un maes nad oeddwn i’n meddwl bod yr adolygiad yn ymdrin ag ef, yn benodol, sef y mater o roi amseriadau ar brosesau gwneud penderfyniadau. Nid wyf wedi gallu ei weld wrth fynd drwy'r adolygiad, ac roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi sylwadau am hynny. Gydag amseriadau, rwy’n sôn am amseriadau ar gyfer gwneud penderfyniad, oherwydd, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gwneud cais am y rhain drwy'r driniaeth IPFR yn bobl sy’n ddifrifol wael—nid yw amser yn ffrind iddynt—ac rwy’n gwybod y cyflwynwyd enghreifftiau i'r panel adolygu ynghylch pa mor hir y mae wedi’i gymryd i wneud penderfyniad, a sut, yn y diwedd, mae’r unigolyn hwnnw wedi mynd heibio i’r pwynt lle y byddai’r hyn y maent yn gwneud cais amdano wedi eu helpu. Felly, pe gallech wneud rhai sylwadau am hynny.

Ac yn olaf—eto, ynglŷn ag amseru, ond y tro hwn amseru’r adroddiadau. Rwy’n deall nawr bod gan y byrddau iechyd rhwng nawr a mis Medi i roi’r argymhellion ar waith, ac y byddant yn cyflwyno eu hadroddiadau cyntaf inni ym mis Mehefin 2018 ac yna’n cyflwyno adroddiadau parhaus bob mis Mehefin ar ôl hynny. Un o'r beirniadaethau o un o ddulliau blaenorol yr IPFR oedd nad oedd yn ddigon tryloyw, a bod y cyhoedd a chlinigwyr wedi colli hyder ynddo. Rwy'n poeni, os na chawn adroddiad llawn yn ôl tan fis Mehefin 2019, â 12 mis cyfan o ddata, y gallai hyn fod yn rhy hir i’w addasu, ymateb i unrhyw faterion, a chywiro unrhyw broblemau. Felly, tybed a allech chi ystyried cyflwyno, efallai, ar gyfer y tymor byr, adroddiadau efallai bob tri mis. Rwy'n meddwl y byddai'n helpu i gynyddu hyder y cyhoedd, ac yn ein galluogi i ganfod problemau a chywiro’r cwrs yn llawer cynharach, er fy mod yn derbyn y byddech, yn y tymor hir, yn awyddus i ymestyn y broses adrodd yn ôl allan eto. Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:48, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Unwaith eto, rwy’n cydnabod y cyfraniad a’r diddordeb cyhoeddus sylweddol gan un grŵp arwahanol o'r cyhoedd, ond grŵp pwysig o'r cyhoedd, a hefyd cafwyd safbwynt nifer o Aelodau'r Cynulliad ar draws gwahanol bleidiau, ar ran eu hetholwyr, ond hefyd ynglŷn â sut y mae hynny’n effeithio ar Aelodau unigol sy’n ceisio cynrychioli a chefnogi etholwyr drwy broses yr wyf eisoes wedi cydnabod ei bod yn un anodd a sensitif.

Os caf i roi sylw i amser a nifer y paneli yn gyntaf, oherwydd mae hynny'n rhan o'r ystyriaeth yr oedd yr adolygiad yn ei hystyried—wyddoch chi, y ffaith, pe byddech yn symud at banel cenedlaethol, y byddai'n rhaid ichi naill ai gael panel sefydlog, neu oddef a derbyn y ffaith y byddai yna gyfnod hirach, ac ni fyddai hynny ynddo'i hun yn dderbyniol. Byddwn bob amser yn awyddus i weld sut y gallwn sicrhau bod paneli ar gael i gwrdd ar adeg brydlon a phriodol, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam yr ydym yn sefydlu rhwydwaith o baneli. Fel arfer, nid yw amseru’r penderfyniad yn broblem. Rwyf yn deall, i rai pobl, bod amser yn ffenestr mor fyr fel y gall hyn fod yn ffactor. Mae hynny'n rhan o ddysgu a deall yr hyn y gallwn ei wneud i wella. Nid oes neb yn esgus bod yr adolygiad yn darparu’r holl atebion ar gyfer gwella yn y maes hwn.

Unwaith eto, rydym wedi rhoi gwerthuso ac adrodd. Mae gennym adroddiad blynyddol am geisiadau IPFR a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud, ac, a dweud y gwir, rydym yn falch bod hynny’n bodoli. Ac roedd y bobl hynny sy'n ymwneud â system Lloegr, rwy’n meddwl, yn gadarnhaol iawn am y wybodaeth yr ydym yn dechrau ei darparu nawr, a hoffem weld hynny'n parhau, a bydd yn parhau. Wrth inni fynd drwy'r adroddiadau gwerthuso am y newidiadau yr ydym yn eu gwneud, wrth iddynt gael eu rhoi ar waith yn llawn, rwy’n disgwyl, fel y dywedais heddiw ac yn fy llythyr at y byrddau iechyd, o fis Medi eleni ymlaen, bydd angen imi feddwl ychydig am beth sy’n gyfnod defnyddiol i ddechrau adrodd ar hynny. Felly, nid wyf yn dweud 'yn bendant na' i gael amserlen wahanol, ond fe wna i fynd i ffwrdd a meddwl am y peth, oherwydd nid wyf wedi fy mherswadio yn llwyr y gallai adroddiad chwarterol fod o gymorth. Ond rwy’n hapus i edrych ar y mater.

O ran y swyddogaeth ansawdd, rwy’n gweld ei bod yn datblygu’r gwaith y dylai'r AWTCC fod yn ei wneud, yn hytrach na chreu rhywbeth hollol newydd, i ddatblygu’r hyn sydd gennym i geisio gwneud yn siŵr ei bod yn ymgymryd â'r meysydd gweithgarwch y mae'r adroddiad yn argymell ein bod yn ymgymryd â hwy ag ychydig mwy o bwrpas, a gwelededd yn ogystal.

O ran eich cwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, ynglŷn â budd clinigol arwyddocaol, rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ddatganiad sy'n haws ei ddeall ac yn cael ei ddeall yn well i wneud yn siŵr, pan nad oes gwerthusiad technoleg, ein bod yn dal i gael rhywfaint o dystiolaeth bod budd gwirioneddol i'w ennill a fyddai'n cyrraedd yr un math o feini prawf, a byddech yn disgwyl y byddai gwerthusiad technoleg iechyd wedi ei gynnal. Nawr, yr anhawster yma bob amser yw, heb y gwerthusiad llawn a ffurfiol hwnnw, bod eich sail dystiolaeth yn anoddach. Mae amrywiaeth o feysydd, er enghraifft, yn ymwneud â meddyginiaeth heb batent—cawsom gyfarfod ddoe gydag Aelod Torfaen, nad yw hi yma, ond, fel y gwyddoch, sydd wedi bod yn bencampwr yn yr achos o blaid yr adolygiad—Lynne Neagle—ynglŷn ag edrych ar sut yr ydym yn edrych ar y maes hwnnw, lle, unwaith eto, nad oes gwerthusiad technoleg ar gyfer defnyddio’r cyffuriau hynny mewn maes gwahanol, ond, yn aml, nid oes digon o dystiolaeth i wneud asesiad rhesymol o'u budd clinigol. Nid wyf eisiau mynd i ormod o fanylder, fodd bynnag, oherwydd, wrth gwrs, gallwn dreulio amser hir yn yr un maes hwn, ond yn yr adroddiad ac yn yr atodiadau cysylltiedig, maen nhw’n sôn, yn llawer mwy manwl, am sut y maen nhw’n edrych ar y mater budd clinigol arwyddocaol a hefyd ar y mater gwerth am arian. Gan nad ydym, a dweud y gwir, wedi ei gwneud mor glir yn y gorffennol bod hyn yn ymwneud â’r ddau gymal—rydych yn edrych ar y budd i'r unigolyn ac rydych yn edrych i weld a all y GIG fforddio'r driniaeth ei hun, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae gan bob rhan o'r gwasanaeth iechyd adnoddau cyfyngedig, ac mae'n rhaid inni ystyried hynny mewn ffordd onest. Rydym yn onest hefyd ynglŷn â’r gwerth yr ydym eisiau ei ganfod i’r unigolyn ac i’r gwasanaeth cyfan.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:51, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Andrew Blakeman a'i dîm am y modd agored a thryloyw y maen nhw wedi ymwneud â'r adolygiad ac am eu hargymhellion ardderchog. Rydym i gyd yn derbyn nad oes arian diderfyn ar gael i’r GIG; fodd bynnag, rydym hefyd i gyd yn derbyn, ar adegau, mai triniaeth newydd nad yw'n gyffredinol yn gost-effeithiol yw'r driniaeth orau sydd ar gael i glaf unigol. Dylid gwneud y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol, yn hytrach nag ar daenlen cyfrifydd. Dyma beth oedd bwriad y broses IPFR, ond, yn anffodus, roedd ei dyluniad yn ddiffygiol.

Fel y gwelodd y panel adolygu yn ystod eu hadolygiad, roedd yr egwyddor eithriadoldeb yn ddryslyd ac yn annheg. Felly, rwy’n cymeradwyo’n llwyr argymhelliad y panel i ddisodli eithriadoldeb â phroses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar sicrhau budd clinigol arwyddocaol i’r claf ynghyd â gwerth rhesymol am arian. Rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Y nam dylunio mawr arall yn y broses IPFR bresennol oedd diffyg ymagwedd gyson. Byddai paneli IPFR unigol yn defnyddio’r meini prawf gwneud penderfyniadau yn wahanol, gan arwain at loteri cod post. Rwy’n derbyn casgliad y panel adolygu nad yw'n ymarferol cael un panel IPFR cenedlaethol ac, felly, rwy’n croesawu eu hargymhelliad y bydd corff newydd i fonitro'r paneli IPFR unigol er cysondeb. Mae'n rhaid inni roi terfyn ar y sefyllfa wrthnysig lle y gallwch gael triniaeth, neu beidio, yn seiliedig ar ble yr ydych yn byw. A allwch chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, pa un a fydd swyddogaeth ansawdd genedlaethol newydd yr IPFR ar waith erbyn mis Medi ac a fydd yn edrych ar geisiadau hanesyddol ynteu dim ond yn ystyried ceisiadau newydd yn y dyfodol?

O ran gweithredu, rwy’n ddiolchgar bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn gobeithio rhoi’r holl argymhellion ar waith erbyn mis Medi. Mae hyn yn newyddion gwych, ond a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd cleifion sy’n ceisio IPFR ar hyn o bryd yn cael eu barnu yn erbyn y meini prawf newydd, yn hytrach na'r hen feini prawf eithriadoldeb?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich sicrwydd bod gennych berthynas dda â’r diwydiant fferyllol ac ABPI Cymru. Yn draddodiadol, mae Cymru wedi bod yn llai effeithiol wrth weithio gyda'r diwydiant i sganio'r gorwel. Er mwyn cefnogi meddyginiaethau newydd yn y dyfodol, mae'n rhaid inni gynllunio ar eu cyfer. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu sut yr ydych yn gweithio gyda'r ABPI a'r sector fferyllol fel y gall y GIG baratoi ar gyfer triniaethau a chyffuriau’r dyfodol? A diolch ichi, unwaith eto, am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y ffordd wirioneddol gynhwysol a thryloyw yr ydych wedi ymdrin â’r adolygiad hwn. Edrychaf ymlaen at weld argymhellion y panel yn cael eu rhoi ar waith er lles cleifion yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:55, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cydnabod bod yna nifer o gwestiynau a byddaf yn ceisio bod yn gryno ac i'r pwynt gyda phob un ohonynt, ond hoffwn gydnabod cyfraniad Andrew Blakeman, a gydnabuwyd gan Aelodau’r gwahanol bleidiau yma, ond hefyd gan aelodau eraill y panel adolygu, a gan randdeiliaid hefyd. Rydym yn ffodus ein bod wedi sicrhau ei wasanaethau, gyda'i gefndir yn y sector preifat, ond hefyd ei ddealltwriaeth o sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio hefyd.

Ynglŷn â’r pwynt am gyllid: mae pawb yn wrthrychol yn derbyn ac yn cydnabod bod gan yr NHS adnoddau cyfyngedig a bod angen system o ddeall sut yr ydym yn dyrannu ac yn blaenoriaethu triniaeth, a sut yr ydym yn deall gwerth clinigol a gwerth ariannol ehangach yn y gwasanaeth. Yr her bob amser yw lle mae unigolion yn sylwi eu bod ar yr ochr anghywir i’r llinell honno, naill ai oherwydd, yn anffodus, bod rhai pobl yn dioddef o gyflyrau na allwn mewn gwirionedd eu trin, ac adegau eraill lle, mewn gwirionedd, mae triniaeth a allai fod yn effeithiol ond sy’n hynod o ddrud. Rydym yn gweld enghreifftiau o hynny yn rheolaidd. Bob ychydig fisoedd bydd rhywbeth yn y wasg ehangach am driniaeth a allai fod yn effeithiol sydd mewn gwirionedd yn ddrud iawn, ac mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal yn ei gwrthod. Nid yw'r argymhellion hyn yn mynd i atal hynny rhag digwydd. Gobeithio, fodd bynnag, y cawn sgwrs fwy rhesymegol am sut i wneud y dewisiadau hynny, pryd i werthuso technoleg, yn ogystal â sut i ymdrin â chais cyllido’r claf unigol. Ond mae eithriadoldeb yn parhau i fod yn faen prawf ar gyfer gweddill y DU, felly rydym yn sicr yn wahanol i weddill y DU o ganlyniad i dderbyn yr argymhellion hyn.

Nid wyf yn meddwl ei bod yn deg nodweddu'r broses barhaus a fydd gennym am yr ychydig fisoedd nesaf o leiaf fel mater o dystiolaeth glinigol yn erbyn cyfrifydd a'i daenlen. Mae'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar baneli IPFR yn arbenigwyr. Maent yn bobl sy'n trin pobl; nid biwrocratiaid di-wyneb, dienw ydynt. Mae'r rhain yn bobl sy'n cynnal, yn arwain ac yn rheoli ein gwasanaeth ac yn gofalu am gleifion ar y rheng flaen. A dylem fod yn ofalus ynglŷn â sut y maent yn gwneud y dewisiadau hynny a sut yr ydym yna’n disgrifio'r dewisiadau a wnânt, y dewisiadau hyn yr wyf wedi dweud eu bod yn rhai gwirioneddol anodd, cymhleth a sensitif i orfod eu gwneud. Ac mae’r pwynt am y loteri cod post—yr awgrym bod yna loteri cod post yn rhan o'r rheswm yr aethom drwy'r adolygiad, ac, mewn gwirionedd, canfu'r panel nad oedd tystiolaeth sylweddol o loteri cod post. Roedd rhai achosion lle y gallai pobl bwyntio at esiampl ac na allech ei hesbonio’n iawn. Mae hynny’n arwain at yr angen inni ymdrin yn briodol â chyfres o benderfyniadau gan garfan Cymru gyfan, ac, mewn gwirionedd, rydym yn gwneud mwy o hynny. A'r hyn y dylem ei weld yn cael ei sbarduno o ganlyniad i'r adroddiad hwn yw sut yr ydym yn gweld y garfan Cymru gyfan honno o benderfyniadau yn cael eu gwneud. Oherwydd, wrth archwilio, mae'n ymddangos bod yr hyn a oedd ar yr wyneb yn edrych fel penderfyniad anghyson, mewn gwirionedd, yn fater o amrywiad yn nodweddion unigol y claf, a'r budd tebygol y byddai’n ei gael, ac mae hynny’n mynd yn ôl at yr anhawster i gydgysylltu’r maes hwn yn onest ac yn gryno. Rwy'n hapus i gadarnhau y dylai'r swyddogaeth ansawdd fod ar waith erbyn mis Medi, ond y dylai’r maen prawf ar gyfer y canllawiau clinigol fod ar waith erbyn mis Mai. Felly, mewn gwirionedd, dylem gael gwared ar eithriadoldeb ar yr adeg y bydd y canllawiau hynny ar waith.

Ac yn olaf, ar y pwynt am sganio'r gorwel, cefais gyfarfod defnyddiol ac adeiladol yn ddiweddar gyda'r ABPI am sut yr ydym yn awyddus i wneud gwelliannau yn y rhan hon o'r broses. Felly, mae gwaith yn parhau rhwng cynrychiolwyr y diwydiant a'r Llywodraeth. A dim ond i fod yn gwbl glir, nid yw hyn yn fater o rywsut naill ai werthu allan y gwasanaeth iechyd, ac ildio i'r gallu i gwmnïau, sydd wrth gwrs, wedi'r cyfan, yn gorfod gwneud elw i barhau â’u busnes, ond mae'n fater o ddeall bod proses gliriach o fudd iddynt hwy hefyd, lle’r ydych yn cael gwybodaeth yn gynharach, fel nad ydym yn gweld cystadleuaeth ddrud rhyngddynt hwy a'r gwasanaeth ynglŷn ag a yw eu cynnyrch newydd ar gael i ddarparu'r budd clinigol yr ydym i gyd yn disgwyl iddynt eu cyflawni. Felly, rwy’n meddwl ein bod mewn lle da a bydd gennyf fwy i'w ddweud yn y dyfodol am yr agwedd benodol hon.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:59, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y siaradwyr cynharach, rwy’n cytuno eu bod yn gwneud argymhellion clir iawn yn yr adolygiad hwn. Mae llawer ohono’n ymwneud ag ansawdd y cyfathrebu rhwng cleifion a meddygon. Felly, er enghraifft, mae argymhelliad 25 yn nodi ei bod yn ymddangos bod rhai meddygon wedi bod yn cuddio y tu ôl i IPFR yn hytrach na dweud wrth gleifion nad ydynt yn gallu derbyn cais am driniaeth benodol lle nad oes unrhyw dystiolaeth y bydd yn effeithiol, ond, nid ydym ychwaith eisiau i feddygon yn syml fod yn dweud, 'Mae'r cyfrifiadur yn dweud na.' Mae arnom angen meddygon a fydd yn edrych ar holl anghenion y cleifion, ac yn ei gwneud yn glir iddyn nhw bod cleifion yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am yr opsiynau a'r dewisiadau eraill, y risgiau a’r manteision, fel yr amlinellir yn argymhelliad 24. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol bod gennym dryloywder ac eglurder wrth wneud penderfyniadau, a hefyd ein bod yn sicrhau cysondeb ledled Cymru.

Mae'r arweinlyfr sydd wedi ei argymell yn argymhelliad 4—i'w gwneud yn glir ac yn hawdd deall sut mae'r IPFR yn gweithio—yn ymddangos yn gwbl hanfodol i mi, fel nad ydym yn codi gobeithion pobl yn ddiangen a’n bod yn glir ynghylch y broses o wneud penderfyniadau. Felly, hoffwn wybod ychydig mwy am ba mor gyflym yr ydym yn mynd i weld diweddariad am ansawdd y broses o wneud penderfyniadau IPFR oherwydd, yn amlwg, ni ddylai neb fod yn gwneud penderfyniadau oni bai bod ganddynt wrth law yr argymhelliad arbenigol y gall fod ei angen ar gyfer triniaeth benodol, os yw'n rhywbeth anghyffredin. A allwch chi ein sicrhau na chaiff yr IPFR ei ddefnyddio fel ffordd o oedi atgyfeirio at wasanaeth arbenigol sy'n cael ei ystyried yn effeithiol ac wedi’i gymeradwyo, ond oherwydd natur ei arbenigedd efallai mai dim ond yn Lloegr y mae ar gael?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:01, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n diolch ichi am y cwestiynau. Mae wir yn ddefnyddiol iawn ar y pwyntiau olaf nad ydym wedi siarad amdanynt heddiw. Mae eich pwynt cyntaf ynghylch cyfathrebu rhwng y clinigwr a'r claf, a chael claf mwy gwybodus, yn bwyntiau pwysig iawn yn y maes hwn ac ym mhob agwedd ar driniaeth a gwneud penderfyniadau. Rydym eisiau i'n dinasyddion fod yn fwy gwybodus a chyfrannu mwy at y dewisiadau gofal iechyd a wneir ar eu cyfer. Yn aml mae’r maes penodol hwn o wneud penderfyniadau, sy'n effeithio ar nifer fach iawn o bobl, yn cael y proffil hwn oherwydd effaith unrhyw benderfyniad a wneir, naill ai i gynnig triniaeth neu beidio. Mae llawer o'r bobl hyn yn dioddef o gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, yn newid bywyd ac a allai fod yn angheuol. Felly, a dweud y gwir, y penderfyniadau a wneir yn y maes hwn—dyna pam mae ganddynt broffil mor enfawr. Dyna hefyd pam maent yn hynod o anodd o ran datblygu dyfarniad, yn enwedig os mai’r ateb fydd 'na' i driniaeth benodol. Felly, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â chlinigwyr sy'n gorfod mynd drwodd a chael y sgwrs anodd honno, ond mae'n rhan o'r sgìl a'r disgwyliad ar y clinigwr i allu cael y sgwrs honno, ac i beidio â dweud wrth rywun y gallai gael ateb gwahanol pe byddai’n symud i lawr y ffordd i siarad â chlinigwr gwahanol neu grŵp gwahanol ohonynt, neu yn wir â chynrychiolydd etholedig. Felly, mae hynny'n rhan o—[Anghlywadwy.]—sut yr ydym yn cefnogi clinigwyr i wneud hynny, sut yr ydym yn eu galluogi a'u grymuso, ond hefyd ein bod yn glir ynghylch ein disgwyliadau ei fod yn rhan o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ganddynt o fewn ein system gofal iechyd. Mae'r pwyntiau a godwyd gennych wedi cael eu gwneud gan Aelodau eraill yn eu cyflwyniadau unigol ac, yn amlwg, yn y sgyrsiau a gafodd y grŵp adolygu eu hunain.

O ran eich pwynt olaf ynglŷn â lle ceir triniaeth effeithiol a gymeradwywyd, boed yn feddyginiaeth neu fel arall, roedd hyn yn rhan o'r mater a godwyd yn yr adolygiad o bobl sy’n defnyddio IPFR yn amhriodol pan, mewn gwirionedd, mae'n benderfyniad comisiynu. Mae'n ddewis y dylai’r gwasanaeth iechyd ei wneud ynghylch pa un a fydd neu na fydd yn comisiynu gwasanaeth penodol. Mae'r IPFR yn cael ei ddefnyddio weithiau fel esgus neu reswm i hynny beidio â digwydd. Weithiau, y sefyllfa mewn gwirionedd yw bod angen i’r bobl sy'n cynnal ac yn arwain y gwasanaeth fod yn fwy eglur. Dyna pam mae argymhellion am hyn yn yr adroddiad, ond mae hefyd yn fater o sicrhau bod clinigwyr yn cael eu cyfeirio yn y ffordd iawn i wneud hynny. Mae'r canllawiau’n ymwneud â chlinigwyr a’u dealltwriaeth o sut i ddefnyddio’r broses yn briodol, a’r gwahaniaeth rhwng y rhan hon a’r comisiynu, ond yn yr un modd o safbwynt y claf hefyd. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn ddefnyddiol iawn tynnu sylw at y ffaith bod hynny'n bendant yn rhan o'r gwaith a fydd yn dilyn, a dyna pam, ar yr argymhelliad ehangach, yr ydym yn disgwyl gweld gweithredu erbyn mis Medi eleni hefyd.