Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyflwyno, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ein hadroddiad ni heddiw ar y rhan yma o’r Bil, ac rwy’n croesawu’r ffordd y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb i’r adroddiad ac wedi ymateb y prynhawn yma hefyd i’r argymhellion gan y pwyllgor. Dyma’r trydydd darn o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â datganoli pwerau trethu yn Neddf Cymru 2014, a’r ail Fil, felly, yn ymwneud â threth i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Cyllid yn y pumed Cynulliad. Cyfarfu’r pwyllgor i ystyried y Bil yn ystod tymor y gwanwyn, ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a wnaeth roi tystiolaeth a’n cynorthwyo yn y broses graffu.
Mae’n dda gennyf ddweud ar gychwyn fy sylwadau ein bod ni fel Pwyllgor Cyllid yn argymell cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae’n amlwg bod angen y Bil er mwyn sicrhau nad yw tirlenwi yn dod yr opsiwn rheoli gwastraff rhataf sydd ar gael yng Nghymru, gan danseilio polisïau amgylcheddol eraill ac annog pobl i gludo gwastraff i Gymru. Er y bydd y refeniw treth sy’n gysylltiedig â thirlenwi yn parhau i ostwng wrth i’r Bil gyflawni ei amcanion o sicrhau bod llai o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, mae’r pwyllgor hefyd yn cydnabod y bydd yn hanfodol cynnal y ffrwd refeniw hon i Gymru, o ystyried yr addasiad canlyniadol yn y grant bloc yn sgil datganoli’r dreth hon. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr OBR—yn rhagweld mai £25 miliwn fydd hyn yn 2018-19, sef y flwyddyn y caiff y dreth gwarediadau tirlenwi ei chyflwyno yng Nghymru.
Fodd bynnag, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymdrin â nifer ohonyn nhw. Rwy’n falch, o’r 34—sori, 24; mae hynny’n ddigon—o’r 24, mae 23 wedi’u derbyn gan Ysgrifennydd y Cabinet naill ai yn llwyr neu yn ysbryd eu derbyn nhw, beth bynnag. Felly, rwy’n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau heddiw eto ar rai o argymhellion y pwyllgor sydd yn ymwneud â’r egwyddorion sylfaenol yn y ffordd yr ŷm ni’n paratoi Biliau sy’n ymwneud â threthi.
Yn gyntaf, rwyf am drafod y pwerau i wneud rheoliadau yn y Bil. Mae’r Bil yn cynnwys 29 o ddarpariaethau sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, gan gynnwys 19 a fyddai’n caniatáu iddynt ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Rydym yn credu bod system dreth sefydlog yn hanfodol i fusnesau Cymru, ac nad yw lefel yr hyblygrwydd a ddarperir gan y pwerau gwneud rheoliadau yn bodloni egwyddorion Llywodraeth Cymru ei hun y dylid darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnes. Rydw i’n derbyn, wrth gwrs, fod rhai o sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn y ddadl eisoes yn mynd rhywfaint tuag at liniaru ein pryderon ni yn y maes yma.
Roeddem ni yn chwilio am fwy o fanylion wedi’u cynnwys ar wyneb y Bil. Er enghraifft, mae pedwar prif faes: cyfraddau arfaethedig ar gyfer y dreth; rhestr o’r deunyddiau cymwys ar gyfer y dreth; y diffiniad o ‘swm bychan’; a darpariaeth ar gyfer rhyddhad dyled ddrwg. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd ddelio yn eithaf manwl â’r olaf. Er y bydd y rhan fwyaf o’r darpariaethau ar gyfer gwneud rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, ni fydd hyn yn rhoi cyfle i’r Cynulliad ddiwygio darpariaethau. Yr unig ddewis fyddai pleidleisio yn eu herbyn, neu eu derbyn nhw.
Yn ein hadroddiad, fe wnaethom annog Llywodraeth Cymru i ailystyried cydbwysedd y manylion ar wyneb y Bil, ac yn benodol i ailystyried cynnwys y cyfraddau treth arfaethedig. O ran pennu’r cyfraddau treth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth roi tystiolaeth, y bydd yn cyflwyno’r cyfraddau fel rhan o’r broses o baratoi’r gyllideb yn Hydref. Fodd bynnag, os na fydd y cyfraddau treth yn cael eu cynnwys ar wyneb y Bil, fel isafswm, rydym yn ceisio sicrwydd y bydd y cyfraddau arfaethedig yn cael eu cyhoeddi cyn 1 Hydref 2017, yn unol ag egwyddorion Llywodraeth Cymru o ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau. Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i gyhoeddi’r cyfraddau treth erbyn y dyddiad hwnnw.
Rwyf wedi nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n anghymesur i ystyried cyflwyno Bil cyllid blynyddol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno Bil fframwaith ariannol mor fuan â phosib. Byddwn ni, fel pwyllgor, yn cynnal rhywfaint o waith ar hyn yn ystod y misoedd i ddod, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn fodlon gweithio gyda’r Pwyllgor Cyllid i hyrwyddo’r gwaith hwn. Mae hwn yn waith, rwy’n gobeithio, y bydd y Cynulliad cyfan yn ymddiddori ynddo fe.
Mae’r Bil yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau ar gyfer credydau treth, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddefnyddio mewn perthynas â chredyd dyled ddrwg mewn achos o ansolfedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried bod creu rhyddhad dyled ddrwg yn gymhleth ac yn dechnegol, fel yr ydym ni newydd ei glywed. Fodd bynnag, nid yw’r pwyllgor yn credu y dylai hyn atal rhai manylion rhag cael eu cynnwys ar wyneb y Bil. Gwnaeth argymhelliad, felly, y dylid cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer dyled ddrwg a’r amgylchiadau lle y gellid ei defnyddio yn y Bil.
Mae Rhan 4 o’r Bil yn galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i godi treth am waredu gwastraff heb ei awdurdodi mewn mannau heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Mae’n bwysig nodi mai’r bwriad pennaf yw atal pobl rhag osgoi talu trethi yn y maes yma, ac nid rhwystro’r hyn a ystyrir yn gyffredinol fel tipio anghyfreithlon, neu ‘fly-tipping’—y mân dipio anghyfreithlon sy’n digwydd. Rydym yn cytuno â rhanddeiliaid bod yn rhaid i’r darpariaethau gael eu cefnogi gan drefn ystyrlon o orfodi ac archwilio, ac wrth gwrs, mae angen adnoddau digonol ar gyfer y drefn honno. Fe wnaethom felly argymell y dylai Llywodraeth Cymru fonitro nifer yr achosion o waredu gwastraff heb awdurdod a nifer yr erlyniadau sy’n deillio o hynny, a chyhoeddi’r ffigurau, i fesur llwyddiant y darpariaethau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Clywsom amrywiaeth o safbwyntiau ynglŷn â chynllun cymunedol y dreth gwarediadau tirlenwi, a gynigiwyd gan y Llywodraeth i ddisodli’r gronfa cymunedau tirlenwi presennol. Mae hyn yn cael ei defnyddio i gefnogi prosiectau amgylcheddol a chymunedol ger safleoedd tirlenwi. Roedd rhai rhanddeiliaid o blaid y syniad y dylai’r cynllun gael ei weinyddu gan un corff dosbarthu, a chyflwynwyd nifer o awgrymiadau ynglŷn â meini prawf cymhwysedd arfaethedig y cynllun, ac rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Mae un peth yn glir: mae rhanddeiliaid yn pryderu na fydd bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu’r cynllun y tu allan i’r Bil yn amddiffyn y cyllid. Rydym yn cydnabod y bydd angen rheoli disgwyliadau wrth i lai o’r dreth gael ei chasglu, fel sy’n anochel. Serch hynny, fe wnaethom argymell y dylid cynnwys dyletswydd statudol i sefydlu cynllun cymunedol yn y Bil er mwyn sicrhau’r ffrwd ariannu bwysig hon, gan ddarparu ar gyfer manylion y cynllun drwy ddulliau eraill. Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pryderon hyn a’i fod newydd gyhoeddi y bydd yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i’r Bil. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ystyried y dystiolaeth a gawsom ar ddatblygu’r cynllun cyn lansio ymarfer caffael i benodi corff dosbarthu’r gwanwyn hwn.
Yn olaf, roedd y pwyllgor yn siomedig o glywed bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn bwriadu gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth treth dirlenwi’r Deyrnas Gyfunol ym Mil Cyllid 2017. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid inni ei fonitro ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i weithio gyda gweithredwyr safleoedd tirlenwi, Trysorlys Ei Mawrhydi, a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar weithredwyr safleoedd tirlenwi Cymru.
Mae nifer o argymhellion manwl o gwmpas adroddiad y pwyllgor ac ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet bellach i’w cael ar dudalen y Bil gan y pwyllgor, ac rwy’n annog felly unrhyw Aelod sydd â diddordeb i archwilio’r dudalen honno.