9. 10. Cynnig i Amrywio Trefn Ystyried Gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

– Senedd Cymru am 4:44 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:44, 21 Mawrth 2017

Yr eitem nesaf o fusnes yw’r cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6264 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 2-13;

b) Atodlen 2;

c) Adrannau 14-17;

d) Atodlen 3;

e) Adran 18;

f) Atodlen 4;

g) Adrannau 19-24;

h) Atodlen 5;

i) Adrannau 25-30,

j) Atodlenni 9-22;

k) Adrannau 31-32;

l) Atodlen 6;

m) Adrannau 33-41;

n) Atodlen 7;

o) Adran 42;

p) Atodlen 8;

q) Adrannau 43-76;

r) Atodlen 23;

s) Adrannau 77-81;

t) Adran 1;

u) Atodlen 1;

v) Teitl Hir

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch. Unwaith eto nid oes yna ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:45, 21 Mawrth 2017

Dyna ni’n dod â’n trafodion i ben am y dydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:45.