<p>Costau Deunydd Hylendid Benywaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:30, 22 Mawrth 2017

Diolch am yr ateb gan y Gweinidog, ar ran yr Ysgrifennydd Cabinet. Bydd e siŵr o fod yn ymwybodol bod nifer o gwestiynau cyffredinol yn cael eu gofyn ym maes addysg ar y maes yma ar hyn o bryd, yn enwedig yn yr Alban, lle mae yna ymgais i wneud defnyddiau ar gael am ddim ymhob ysgol, ac mae yna ddeiseb gerbron Senedd San Steffan, rwy’n deall.

Nawr, pan gynhaliwyd ymchwiliad gan y pwyllgor plant a phobl ifanc blaenorol, fe edrychwyd i mewn i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel, ac mae’n wir i ddweud nad oedd y mater yma wedi codi, fel rwyf fi’n ei gofio fe, yn yr ymchwiliad yna. Ond, wrth gwrs, mae’n fater personol iawn, ac efallai rhywbeth sy’n cael ei gelu a ddim yn cael ei drafod yn agored. A fedr y Gweinidog, felly, gadarnhau, pe bai ysgol yn defnyddio arian gan Lywodraeth Cymru, megis y grant amddifadedd disgyblion, i dalu am gynnyrch o’r fath, er mwyn sicrhau bod merched yn teimlo’n gartrefol ac yn hapus a chysurus mewn ysgol, neu unrhyw gefnogaeth arall i sicrhau bod y defnyddiau ar gael, y byddai’r Llywodraeth yn cefnogi hynny, ac yn annog hynny?