Mercher, 22 Mawrth 2017
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o golli diwrnodau ysgol gan ferched na fedrant fforddio costau deunydd hylendid benywaidd? OAQ(5)0111(EDU)[W]
2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o rôl goruchwylwyr llanw mewn ysgolion uwchradd? OAQ(5)0105(EDU)
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau na fydd y bwriad i gau Coleg Harlech yn arwain at golli argaeledd unrhyw gyrsiau ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion? OAQ(5)0098(EDU)
4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael ag Estyn ynghylch y cylch nesaf o arolygiadau? OAQ(5)0093(EDU)
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion cyfnod nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0110(EDU)
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllun Cylch Ti a Fi y Mudiad Meithrin? OAQ(5)0097(EDU)
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y £21.1 miliwn a drosglwyddwyd o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru? OAQ(5)0109(EDU)
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu’r fframwaith cymhwysedd digidol gan ysgolion cynradd yn y canolbarth? OAQ(5)0103(EDU)
10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ(5)0099(EDU)
11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth cymorth dysgu arbenigol mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0101(EDU)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru o ran hela â chŵn? OAQ(5)0031(CG)
2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch cosbau troseddol am droseddau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?...
3. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynghylch dyfarniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan?...
4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion eraill y gyfraith parthed hawliau dinasyddion Ewrop yng Nghymru? OAQ(5)0033(CG)[W]
5. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal ynghylch annibyniaeth y system farnwrol yng Nghymru? OAQ(5)0030(CG)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Nid oes unrhyw ddatganiadau 90 eiliad yr wythnos hon.
Felly, awn at eitem 4, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr economi las, a galwaf ar Jeremy Miles i gynnig y cynnig.
Ni ddetholwyd y gwelliant.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella addysg gychwynnol i athrawon?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia