<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 1:39, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi mwynhau cyfraniadau’r Aelod dan sylw ers bron i ddegawd yn y lle hwn, lle y mae wedi rhefru yn erbyn canlyniadau polisïau Llywodraeth y mae’n ei chefnogi ar draws y ffin yn Lloegr. Mae pawb ohonom yn gwybod bod yna anawsterau cyllido yn ein hwynebu yng Nghymru, ac rydym yn gwybod pam fod yna anawsterau cyllido yn ein hwynebu yng Nghymru—oherwydd bod Llywodraeth Geidwadol wedi gwneud y penderfyniadau anghywir ar yr economi, y penderfyniadau anghywir ar gyllid cyhoeddus, ac oherwydd eu polisi economaidd aflwyddiannus, rydym yn wynebu cryn dipyn yn fwy o anawsterau o ran polisi caledi sydd wedi methu ac wedi methu ac wedi methu eto. Mae’r Aelod yn ymwybodol o hyn a gallaf ddeall ei fod yn rhy llywaeth i gyfaddef hynny mewn gwirionedd.