<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:44, 22 Mawrth 2017

Iawn. Wel, mi allwn i ddarllen y dyfyniad i chi, ond ni wnaf hynny; fe ysgrifennaf atoch chi. Ond, i bob pwrpas, mae yn honiad bod yr arian PDG yn cael ei gyfeirio at bwrpasau eraill, sydd, i bob pwrpas, yn propio lan y lefelau staffio mewn ysgolion.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi clywed bod yna anghysondeb sylweddol yn yr arian y mae ysgolion yn ei dderbyn o un rhan o’r wlad i’r llall. Yn ôl ffigyrau sydd wedi eu casglu gan NAHT Cymru ar ‘age-weighted pupil units’ yng Nghymru, mae cyllid y pen ar gyfer disgyblion yn amrywio o £1,798 mewn un sir i £3,200 mewn sir arall. Mae hyn, wrth gwrs, yn ffactor sy’n cyfrannu at y darlun yma o bwysau ariannol sydd yn siŵr o fod yn cael effaith, wrth gwrs, ar yr amrywioldeb yma yn yr ansawdd dysgu rŷm ni’n clywed Estyn yn cyfeirio ato o hyd, a hefyd yn yr anghysondeb sydd yna o safbwynt darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i athrawon mewn rhai ysgolion a rhai siroedd, oherwydd nad yw’r adnoddau angenrheidiol oddi fewn i’r ysgolion i wneud hynny. A gaf i ofyn felly, a ydych chi’n credu bod yr anghysondeb ariannu yma yn dderbyniol, a beth mae’r Llywodraeth am ei wneud i geisio mwy o degwch ariannu, neu o leiaf system ariannu sy’n fwy cyson ar draws Cymru?