Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 22 Mawrth 2017.
Diolch i chi, Lywydd. Mae pobl yn tynnu fy sylw dro ar ôl tro at y ffaith fod yna argyfwng recriwtio yng Nghymru. Pa gamau rydych yn eu cymryd i ganfod y rhesymau pam fod athrawon o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dymuno gweithio yng Nghymru neu fel arall?