Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 22 Mawrth 2017.
Rydym yn deall—rydym wedi cynnal nifer o arolygon gweithlu yn ddiweddar ac rydym wedi creu Cyngor y Gweithlu Addysg, wrth gwrs, a fydd yn adrodd ar y materion hyn yn fanylach maes o law. Ond rydym yn deall mai un o’r materion pwysicaf o ran pobl yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â ble y byddant yn byw a ble y byddant yn gweithio yw’r amgylchedd gwaith ei hun, a thrwy drin athrawon â pharch, rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y gymdeithas, yn cael eu gwerthfawrogi yn yr ysgolion, a thrwy roi diwygiadau ar waith sy’n cael eu cefnogi a’u hariannu. Roeddech yn y pwyllgor y bore yma a chlywsoch y ddadl ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol. Yng Nghymru, mae hwnnw’n cael ei ariannu; yn Lloegr, nid yw’n cael ei ariannu. Mae hynny’n dangos nad ydym ond yn creu diwygiadau i fethodoleg, dulliau a mecanweithiau addysgu, ond ein bod hefyd yn eu cefnogi. Rwy’n credu y bydd hynny’n cael ei werthfawrogi gan athrawon.