Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 22 Mawrth 2017.
Rwy’n anghytuno’n llwyr â’r rhagdybiaeth. Rwy’n anghytuno â’r dadansoddiad. Rwy’n anghytuno â’r casgliad. A ydych chi’n ymwybodol o’r anhawster sy’n ein hwynebu yng Nghymru, Lywydd? Mae pobl yn gwneud y mathau hynny o sylwadau heb unrhyw dystiolaeth yn sail iddynt neu heb unrhyw fodd cynhaliol o gadarnhau’r mathau hynny o honiadau di-sail. Yr hyn sy’n digalonni llawer o bobl, rwy’n credu, nid yn unig ym maes addysg yng Nghymru, ond mewn agweddau eraill ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, yw’r ffordd y mae UKIP a’r Ceidwadwyr yn dod at ei gilydd o hyd i ddibrisio’r sector cyhoeddus, i ladd ar ysgolion cyhoeddus a sicrhau nad yw pobl yn gefnogol. Mae hon yn Llywodraeth a fydd yn cefnogi athrawon, yn cefnogi staff addysgu, yn cefnogi’r system addysg, a phan fyddwch chi’n eu bychanu, rydym ni’n eu dyrchafu.