<p>Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 1:57, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae band B y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi cael ei gynllunio ar gyfer y cyfnod 2019-24, ac mae’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol a’r sector addysg bellach i ddeall y galw am fuddsoddiad a phrosiectau allweddol.