Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 22 Mawrth 2017.
Weinidog, tybed a fyddech yn edrych ar y wefan swyddogol sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, clicio ar ‘newyddion diweddaraf’, a’r newyddion diweddaraf arni yw cynhadledd adeiladu ar sut i adeiladu ysgol dda, dyddiedig 12 Mai 2015. Nawr, rwy’n gwybod ein bod rhwng cynlluniau neu gyfnodau, ond mae hyn yn rhoi’r argraff fod y rhaglen gyfan yn segur, a byddwn yn awgrymu bod angen gwefan fwy bywiog arnoch.