Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 22 Mawrth 2017.
Rydw i’n diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae yna becyn o gefnogaeth i gylchoedd Ti a Fi, sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ystod hydref y llynedd, ac mae hynny yn cynnig cyngor ac enghreifftiau o ymarfer da i sicrhau bod grwpiau sy’n bodoli yn barod, a grwpiau newydd, yn gallu cael eu cefnogi a’u creu. Yn ychwanegol at hynny, mae yna grant o £1.4 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, sy’n cefnogi ‘range’ o weithgareddau, sy’n cynnwys cefnogaeth at ehangu darpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae grwpiau Ti a Fi, cylchoedd Ti a Fi, yn rhan hynod o bwysig o’r ddarpariaeth yna.