Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 22 Mawrth 2017.
Dylwn i ddiolch i’r Aelod am yrru copi o’r ddogfen i mi. Nid ydw i wedi cael cyfle i’w darllen hi eto, ond mi fyddaf i’n ei wneud e dros y penwythnos, efallai. Rydw i’n gwerthfawrogi hynny. A gaf i ddweud hyn? Mi fydd y strategaeth iaith yn strategaeth Llywodraeth, nid strategaeth unrhyw adran neu adran benodol. Mi fydd y strategaeth yn cael ei datblygu ar draws y Llywodraeth, yn cynnwys pob un adran o Lywodraeth, ac wedi hynny bydd hi’n cael ei derbyn gan y Cabinet i sicrhau ei bod hi’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Felly, mae pob un mater, fel tlodi, fel mae’r Aelod wedi ei godi, yn mynd i fod yn rhan ohoni hi, a darpariaethau cylchoedd Ti a Fi, fel sydd wedi cael eu codi gan Mike Hedges, mi fydd y rhain yn rhan ohoni hi, a’r ddarpariaeth ehangach blynyddoedd cynnar yn rhan ohoni hi hefyd. Mae hon yn strategaeth gynhwysfawr, yn cynnwys pob un rhan o Lywodraeth Cymru.