Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 22 Mawrth 2017.
Trosglwyddodd y cyfrifoldeb dros dalu’r grant ffioedd dysgu o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru o 1 Ebrill 2015 ymlaen. Roedd yr addasiad technegol o £21.1 miliwn yn gadarnhad o drosglwyddiad terfynol y gyllideb wedi’i chlustnodi a amlinellwyd yn y llythyr cylch gwaith gweinidogol ar gyfer 2016 i CCAUC.