<p>Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:08, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae’r Aelod o leiaf yn gyson yn gofyn yr un cwestiwn i nifer o wahanol Weinidogion a phwyllgorau ar wahanol adegau, ond byddaf yn siomi’r Aelod drwy roi’r un ateb ag y mae’r Gweinidogion hynny eisoes wedi’i roi iddo. Mae wedi derbyn ei lythyr ar 15 Mawrth. Rwy’n hapus iawn, Lywydd, i brofi eich amynedd eto a’i ddarllen yn ei gyfanrwydd ar gyfer y cofnod, ond nid wyf yn siŵr y byddai hynny’n cyflawni llawer iawn. Mae’n rhaid i mi ddweud hyn wrth yr Aelod: cafodd y pwyntiau y mae wedi’u codi yn y Pwyllgor Cyllid ac eto yma eu hateb yn y llythyr ar 15 Mawrth. Mae hwn yn addasiad technegol i’r cyllidebau sy’n gysylltiedig ag addysg uwch. Mae’r dogfennau cyllideb a gyhoeddwyd yn esbonio hyn, ac mae wedi cael ei esbonio gan y Gweinidog cyllid a’r Ysgrifennydd addysg yn y materion hyn.