<p>Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:09, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rydych yn ymwybodol, drwy’r sgyrsiau a gawsom yma o’r blaen, ein bod yn rhyddhau’r arian y mae CCAUC ei angen er mwyn darparu’r math o brofiad addysg uwch a buddsoddiad rydym am ei gyflawni yng Nghymru. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n credu bod angen i ni fynd gam ymhellach, weithiau, na dim ond ariannu’r ystad a’r sefydliad addysg uwch er mwyn cyflawni’r pethau hynny. Rwy’n credu bod angen i ni edrych yn ehangach ar ddatblygu polisi diwydiannol sy’n seiliedig yn rhannol o fewn addysg uwch, ond nid yn unig o fewn addysg uwch, ar gynyddu sgiliau, masnacheiddio’r ymchwil sydd ar gael i ni, a buddsoddi mewn economi sy’n gallu gwrthsefyll yr anawsterau y bydd ein heconomi yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod.