Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 22 Mawrth 2017.
Cytunaf â’r pwynt sylfaenol y mae’r Aelod yn ei wneud, fod yn rhaid i bob ysgol gael mynediad cyfartal at fand eang er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn, a ddylai fod ar gael iddynt. Nid oes gan 23 o ysgolion ar hyn o bryd y band eang cyflym iawn sy’n angenrheidiol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd mynediad cyfartal. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo £5 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod pob ysgol â mynediad at fand eang cyflym iawn. Lywydd, rydym yn disgwyl y bydd y gwaith ym mhob un o’r ysgolion hyn wedi’i gwblhau erbyn 31 Mawrth, yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, ceir tair ysgol ble y mae BT wedi canfod problemau ac ni chânt eu cwblhau hyd nes 28 Ebrill.