Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Mawrth 2017.
Mae’n rhaid darparu cymorth dysgu arbenigol i bob plentyn y nodwyd bod ganddynt angen. Drwy ein rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol cysylltiedig, bydd anghenion dysgwyr yn cael eu nodi’n gynharach a bydd cefnogaeth briodol yn cael ei darparu. Rydym wedi cyhoeddi £20 miliwn o gyllid i gefnogi’r broses o weithredu a chyflwyno’r system newydd.