<p>Cymorth Dysgu Arbenigol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:17, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ar ôl i bryderon gael eu dwyn i fy sylw gan rieni a glywodd y byddai toriadau yn y cymorth un i un yn ysgolion cynradd Gwynedd ar gyfer plant sydd â diabetes math 1, maent wedi dweud wrthyf fod yna newyddion da, a’u bod wedi dod o hyd i ffordd wych ymlaen, ac maent yn falch o’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan staff y cyngor a’u parodrwydd i gydweithio. Fodd bynnag, mynegwyd pryder fod hyn yn cael ei ariannu drwy gyllidebau anghenion dysgu ychwanegol ac maent yn chwilio am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol sydd ar y gweill yn peryglu’r cyllid hwnnw. Pa sicrwydd y gallwch ei roi iddynt?