<p>Hawliau Dinasyddion Ewrop</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:34, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi gweld y datganiad ar wefan Llywodraeth y DU, sy’n dweud,

Pan fyddwn yn gadael yr UE, rydym yn disgwyl y bydd statws cyfreithiol dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU, a dinasyddion y DU sy’n byw yn aelod-wladwriaethau’r UE, yn cael eu diogelu’n briodol.

Ac felly, mae’r ymgais gan Simon Thomas i greu ofn ym meddyliau’r rhai a ddisgrifiodd fel dioddefwyr yn gwbl ddiangen, ac mewn gwirionedd, mae’n rhan o’r broblem, nid yn rhan o’r ateb. A gaf fi hefyd ofyn i’r Cwnsler Cyffredinol am ei farn ar effaith Confensiwn Fienna ar Gyfraith Cytuniadau 1969 yn hyn o beth? Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae’n datgan bod unrhyw hawliau a gafwyd cyn i wlad dynnu’n ôl o gytuniad yn cael eu cadw wedi hynny, ac mai rhagweledol yn unig fydd unrhyw hawliau a rhwymedigaethau a gaiff eu heffeithio, ac nid ôl-weithredol.