3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:42, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf wedi cael trafodaethau uniongyrchol â Gweinidog carchardai’r DU ynglŷn â’r safle arfaethedig ar gyfer datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot. Mae gan y cynnig hwn botensial i gynnig cyfleuster modern, addas i’r diben i dde Cymru, sy’n canolbwyntio ar adsefydlu, a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.