Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r penderfyniad ar ddyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r gororau yn arbennig o bwysig i drafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain ac, yn wir, i fetro de Cymru—mater yr wyf i wedi ei godi yn y Siambr hon gyda chi nifer o weithiau. Soniasoch ar ddiwedd eich ateb am bwysigrwydd integreiddio. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y broses o ddyfarnu'r fasnachfraint, o gofio bod map y metro yn cynnwys llwybrau bysiau a threnau? Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod annibyniaeth y ddau lwybr hynny yn cael ei sicrhau yn y fasnachfraint newydd, fel ein bod yn gweld y ddarpariaeth o docynnau integredig, ac fel bod y fasnachfraint newydd yn gweithredu mewn cytgord â gwasanaethau bysiau lleol a'r gwasanaethau trên?