Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 28 Mawrth 2017.
Mae'r fasnachfraint ei hun yn mynd yn dda, ond ni fyddwn yn disgwyl, wrth gwrs, i’r fasnachfraint rheilffordd ymdrin â'r mater o wasanaethau bysiau. Ond, wrth gwrs, ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd y sefydliad hwn yn cael rheolaeth o wasanaethau bysiau, ac mae hynny’n rhoi’r cyfle i ni fel Llywodraeth, a'r Cynulliad fel sefydliad, i integreiddio gwasanaethau bysiau a rheilffordd o gofio’r ffaith y bydd rheolaeth yn yr un lle.