Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, gwrandewais ar y sylwadau a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru dros y penwythnos, ac roeddent yn union yr un fath â'r sylwadau, ac eithrio un mater, yr wyf i wedi eu gwneud yn y gorffennol. Yr unig fater sy'n wahanol yw'r derminoleg sy'n cael ei defnyddio—mae hi'n defnyddio 'aelodaeth'; rydym ni’n defnyddio 'cyfranogiad'. Nid wyf yn ceisio dweud bod unrhyw wahaniaeth rhyngom ni o ran beth fyddai'r canlyniad. Ond yr hyn sy'n amlwg i mi, yn gyntaf oll, yw nad oedd Llywodraeth y DU ei hun, yr wythnos diwethaf, yn gwybod beth yn union fyddai’r llythyr erthygl 50 yn ei ddweud. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cynghori Prif Weinidog y DU; roeddwn i'n meddwl mai’r byrraf y gorau fyddai orau iddi hi. Cawn weld sut y mae’r llythyr yn edrych mewn gwirionedd.
O ran dinasyddion yr UE, mae’n rhaid i mi ddweud bod dinasyddion UE yng Nghymru o hyd sy'n bryderus. Ddoe, cefais gyfarfod â llysgennad Rwmania. Mae'r gymuned Rwmanaidd yn eithaf bach, ond mae rhai ohonynt yn pryderu y byddant yn cael eu hallgludo, yn llythrennol. Nid yw’n ofn sydd wedi ei wreiddio mewn ffaith, ond mae pobl wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau ac maen nhw wedi cyfateb hynny i'r sefyllfa yma. Rwyf wedi ceisio, yn amlwg, tawelu rhai o'r ofnau hynny. O’m safbwynt i, yr hyn sy'n gwbl allweddol, cyn gynted â phosibl, yw bod y mater o ddinasyddion UE sy'n byw ar draws yr Undeb Ewropeaidd, a dinasyddion y DU sy’n byw mewn gwledydd eraill yn yr UE, yn cael ei ddatrys yn gyflym er mwyn cael gwared ar yr ansicrwydd hwnnw.
Ac, o ran yr economi, mae hi a minnau o’r un safbwynt yn union: mynediad at y farchnad sengl, dim gosod tariffau. Mae’r gallu i gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl yn gwbl hanfodol i economi fel ein heconomi ni, lle mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE.