Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nid oes gen i unrhyw ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i adlewyrchu ein buddiannau cenedlaethol penodol yng Nghymru, ac nid oes unrhyw wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i ni y prynhawn yma i roi mwy o ffydd i ni. Ni all Cymru fforddio talu pris uchel am Brexit caled, ac rydym ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i orfod amddiffyn ein buddiannau yn ystod y trafodaethau erthygl 50. Ond mae angen i ni hefyd feddwl am sut yr ydym ni’n mynd i symud y ddadl ymlaen i ymdrin â'r pwerau sydd eu hangen arnom i liniaru'r risgiau economaidd hynny. Rydym ni eisiau cadw gwerth ein cyllid UE presennol mewn unrhyw gynllun newydd, ond mae Plaid Cymru yn credu bod angen mwy o rym yng Nghymru i benderfynu sut yn union y caiff yr arian hwnnw ei wario. Dylem allu defnyddio cyllid newydd i wneud Cymru'n fwy deniadol i fusnesau, ac mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru’n cael ei grymuso fel y gallwn addasu i her Brexit. Mae angen pwerau treth arnom, er enghraifft, sy’n llawer ehangach na'r rhai sy’n cael eu cynnig eisoes. Rwyf wedi nodi fy ngalwadau i Lywodraeth y DU ar hyn heddiw—yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ystyried fel budd pennaf Cymru—ond a allwch chi ddweud wrthym beth yr ydych chi’n bwriadu ei wneud, fel Llywodraeth Cymru, i gael ein gwlad i'r sefyllfa lle y gall oroesi Brexit Torïaidd eithafol?