<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, mae llawer o'r hyn a ddywedodd fwy neu lai yr un fath â’r hyn a ddywedais i yr wythnos gynt ac yn yr wythnosau cyn hynny. Nid oes gennym safbwynt gwahanol o gwbl yn hynny o beth. Wel, gadewch i mi esbonio: yn gyntaf oll, nid wyf mor optimistaidd—y gair anghywir mae’n debyg, ond mor optimistaidd ag y mae hi y bydd unrhyw arian ar ôl 2020. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd unrhyw arian i ddisodli cronfeydd strwythurol. Rwy’n llai a llai argyhoeddedig y bydd unrhyw arian i dalu cymorthdaliadau ffermio. Mwy a mwy, rydym ni’n clywed bod y polisi amaethyddol cyffredin yn broblem. Clywsom hynny gan Iain Duncan Smith. Mae hynny'n golygu ei bod yn bosibl iawn y gallai cymorthdaliadau ffermio ddiflannu—mae’n bosibl iawn y gallent ddiflannu. Dyna fy ofn mwyaf. Rydym ni’n gwybod beth fyddai hynny'n ei olygu i economi cefn gwlad Cymru.

Fel y mae hi’n gwybod, rwyf wedi dweud lawer, lawer gwaith na fydd y broses hon yn gweithio oni bai bod y pedair gwlad yn cytuno i'r setliad terfynol. Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl mewn unrhyw ffordd cael setliad terfynol erbyn mis Mawrth 2019, oherwydd byddai'n rhaid iddo gael ei gwblhau erbyn hydref y flwyddyn nesaf, ac mae hynny'n dipyn o gamp. Wrth gwrs, er mwyn i farchnad sengl fewnol y DU oroesi, mae angen rheolau cymorth gwladwriaethol yn y DU; mae’n rhaid iddynt gael eu cytuno gan y pedair gwlad, nid eu gorfodi gan Lywodraeth y DU; ac mae'n rhaid cael proses ddyfarnu annibynnol i blismona'r rheolau hynny. Rwy'n credu ei fod yn ymarferol wedyn. Ond, fy ofn mwyaf yw nad oes dealltwriaeth dda o hyn yn Whitehall. Ddydd Iau, byddwn yn gweld y Papur Gwyn ar y Bil diddymu mawr fel y'i gelwir. Os yw'n canolbwyntio ar gadw acquis presennol cyfraith Ewropeaidd yn unig, mae hynny'n synhwyrol. Os, fodd bynnag, y bydd yn symud tuag at awgrymu rhywbeth fel, 'Wel, dylai pwerau’r UE ddod yn ôl i Whitehall ar sail dros dro ac yna bydd trafodaeth ynghylch ble maen nhw’n mynd,' ni fyddai hynny'n dderbyniol, gan nad wyf yn credu y byddai'r 'dros dro' yn golygu dros dro. Byddwn yn gweld ddydd Iau a yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â gweithio i sicrhau bod y DU yn parhau i weithio fel partneriaeth.