Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Ddoe, Prif Weinidog, darganfuwyd bod pedwar bwrdd iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa o ddiffyg cronig, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sylw teg—sefyllfa o ddiffyg cronig. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu llinell yn y tywod gan ddweud na fyddant yn cael eu hachub. Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd na fydd unrhyw wasanaethau yn cael eu colli yn unman yng Nghymru oherwydd diffyg arian. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir ac mai dyna bolisi Llywodraeth Cymru?