Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 28 Mawrth 2017.
Gallaf, mae’n wir. Mae'r byrddau iechyd yn cael eu hysbysu—mae’r pedwar yn cael eu hysbysu—bod yn rhaid iddyn nhw gadw at y gyllideb. Dywedwyd hynny wrthynt ar y cychwyn cyntaf. Mae’n rhaid iddyn nhw beidio â niweidio gwasanaethau o ganlyniad i hynny. Byddwn yn edrych eto ar eu cyfrifon ym mis Mehefin, ac os oes angen cymryd camau pellach, os nad ydynt yn gallu cyflawni yn hynny o beth, yna bydd y camau hynny'n cael eu cymryd.