Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, mae swyddogion mewn trafodaethau, ond y sefyllfa yr ydym yn ei ffafrio yw y dylem ni gymryd drosodd y cyfrifoldeb am redeg y ddwy bont— cymryd rheolaeth dros y tollau. Cyn i ni wneud hynny, byddai'n rhaid i ni gael dealltwriaeth gadarn o gyflwr a chostau cynnal a chadw’r ddwy bont hynny. Mae'r ffigurau yr ydym ni wedi eu cael yn amrywio'n helaeth. Byddai angen hoelio hynny i lawr—bron yn llythrennol, rwy’n gobeithio—ond byddai'n rhaid i ni ddeall beth ydyn nhw, a’n barn ni yw y dylem ni reoli'r tollau. Nid wyf yn deall gwrthwynebiad Llywodraeth y DU i hyn. Nid wyf yn deall pam maen nhw’n teimlo na ddylai pont sydd, yn y pen draw, yn brif fynedfa i Gymru gael ei rheoli o Gymru.