Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 28 Mawrth 2017.
Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog, a dymunaf yn dda iddo fe, Ken Skates a'i swyddogion wrth ddadlau’r safbwynt hwnnw. Ceir tair risg gyfreithiol ddifrifol iawn i Lywodraeth y DU, rwy’n credu, os bydd yn ceisio parhau i godi tollau heb ein cytundeb, a gallai unrhyw un o'r rheini fod yn angheuol i unrhyw gynllun sydd ganddi. Yn gyntaf, mae Deddf Pontydd Hafren 1992 yn dweud y dylai tollau ddod i ben ar ôl i swm penodol pellach gael ei godi, a byddai hynny'n debygol o ddigwydd tua diwedd y flwyddyn nesaf. Yn ail, mae gennym ni, o dan Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'n rhestru'r materion datganoledig, gan gynnwys mater 10.1, creu, gweithredu a gorfodi cynlluniau ar gyfer codi ffioedd o ran y defnydd o gefnffyrdd yng Nghymru.
A dyna, yn fy marn i, sydd wedi arwain at Lywodraeth y DU yn cynnig parhau i godi tollau ar yr hanner pont Hafren sydd yn Lloegr, gan fod hynny’n disodli cael yr awdurdod codi tâl. A byddai angen iddynt orfodi’r doll honno, o bosibl, yn y cabannau yng Nghymru, yr wyf yn cynnig sy’n mynd yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Ac yn drydydd, mae ganddyn nhw broblem bellach bod Deddf Trafnidiaeth 2000, y maen nhw’n bwriadu ei defnyddio nawr, yn dweud,
Ceir cyflwyno cynllun codi ffioedd ar gefnffyrdd yng nghyswllt ffordd.... dim ond os bydd y ffordd yn cael ei chludo gan bont, neu’n teithio trwy dwnnel.
Nid yw'n darparu ar gyfer iddyn nhw godi tâl am ran o ffordd sy’n cael ei chludo gan bont, ac mae’r defnydd o'r ymadrodd ‘teithio trwy dwnnel’ yn awgrymu, trwy gyfatebiaeth, mynd o un ochr i'r afon i'r llall. Felly, am yr holl resymau hynny, a all y Prif Weinidog ystyried beth arall y gall ef neu ei Llywodraeth ei wneud i bwysleisio i Lywodraeth y DU, o leiaf, y risgiau cyfreithiol iddi os bydd yn ceisio codi ffioedd yn y dyfodol heb ein cytundeb ni?