<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 1:55, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa gyfreithiol, y sefyllfa a anfonwyd ataf i mewn gohebiaeth o leiaf, wedi newid. I ddechrau, y pwyslais oedd y gallai Llywodraeth y DU ei wneud gan mai hi oedd yr awdurdod codi tâl, ond mewn gwirionedd nid yw Llywodraeth y DU yn ceisio gorfodi ar ein hochr ni o’r ffordd, a byddai angen iddi orfodi, a cheir anawsterau gwirioneddol o ran gwneud hynny mewn Deddf ddiweddarach. Ceir tair gwahanol ddadl, y byddai unrhyw un ohonynt yn angheuol i safbwynt Llywodraeth y DU. Felly, maen nhw’n ceisio defnyddio'r cabanau tollau presennol er gwaethaf y ffaith fod Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud mai ein hawl ni yw gorfodi ar ffyrdd yng Nghymru, neu maen nhw’n ystyried buddsoddi mewn cynllun llif rhydd—llawer o gyfalaf—heb sicrwydd cyfreithiol, os bydd rhywun yn mynd trwodd ac nad yw'n talu, eu bod yn mynd ar eu holau am y ddyled, mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r llys, ac oni bai y gallant wybod gyda sicrwydd bod y llys yn mynd i ddweud, 'Ydy, mae honna’n ffi ddilys', yna mae'n arbennig o anodd iddyn nhw fuddsoddi yn y cynllun hwnnw. Y rhwystredigaeth sydd gennyf i ynghylch hyn yw bod swm sefydlog yma, rwy’n meddwl, o tua £75 miliwn y mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'n ei godi ac y byddem ni’n gwella ar hynny, ond byddai'n codi hynny o fewn tua blwyddyn o godi tollau parhaus. Wedyn mae'n dweud bod y gost o weithredu a chynnal a chadw parhaus tua £15 miliwn y flwyddyn, ond gweithrediad y tollau eu hunain yw llawer o hynny mewn gwirionedd. Felly, rydym ni’n edrych efallai ar swm o tua hanner hynny. Er nad dyna ein sefyllfa ddelfrydol, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried y gallai fod yn well na dim, pe byddai codi tollau yn parhau dim ond am flwyddyn arall, a phe gallem ni wneud cyfraniad cymedrol ar ôl hynny o tua £2 filiwn neu £3 miliwn efallai i'r gost o godi tollau, a yw'n credu y byddai hwnnw'n gytundeb gwerth ei gael er mwyn cael gwared ar y tollau hynny? Ac a wnaiff ef weithio gyda phartïon ar draws y Siambr i geisio cytuno ar hynny?