<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:57, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, fel mater o egwyddor, ni fyddem yn ceisio cyfrannu at unrhyw beth nad oedd wedi ei ddatganoli. Os nad yw wedi’i ddatganoli, yna mae'n fater i adran briodol Llywodraeth y DU ymdrin ag ef. Mae'n fy nharo i ei fod wedi awgrymu ffordd ymlaen, ond y ffordd haws, yn fy marn i, yn syml, fyddai cael dim tollau o gwbl, a chael tollau electronig yn y cyfamser, er bod angen buddsoddiad sylweddol yn hynny. Ac, wrth gwrs, y mater i ni yw mai’r cyflymaf y mae’r traffig yn mynd trwy bontydd Hafren, y cyflymaf y bydd yn cyrraedd twneli Brynglas, gan ychwanegu at y tagfeydd sydd eisoes yn bodoli yn y twneli hynny. Mae honno'n ffaith yr ydym yn ymwybodol ohoni, ac yn amlwg bydd ef yn gwybod y cynigion y mae'r Llywodraeth wedi eu gwneud yn hynny o beth. I mi, mae hwn yn fater syml nad oes angen ei wneud yn gymhleth. Mae angen i ni gael dealltwriaeth o beth yw cyflwr y ddwy bont mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod hynny. Rwyf wedi gweld ffigurau ymhell y tu hwnt i'r ffigur y mae ef wedi ei awgrymu o ran cynnal a chadw. Mae angen i hynny fod yn gadarn, yn gyntaf oll, ac yna gallwn gael dealltwriaeth o beth yw’r rhwymedigaeth. Yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud erioed yw, i ni fel Llywodraeth, yr hoffem gymryd drosodd cyfrifoldeb am y tollau, ond cyn i ni wneud hynny mae angen i ni ddeall beth yr ydym ni’n cymryd cyfrifoldeb amdano.