Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 28 Mawrth 2017.
Prif Weinidog, mae Llywodraethau Ceidwadol a Llafur yn San Steffan, a chlymbleidiau Llafur, Plaid a Rhyddfrydol olynol yma yng Nghymru, wedi methu â chaniatáu cyllid digonol ar gyfer gofal cymdeithasol. O ganlyniad i—[Torri ar draws.] O ganlyniad i ddegawdau o danariannu, rydym ni’n nesáu at argyfwng mewn gofal cymdeithasol, ac er gwaethaf y ffaith fod ein poblogaeth yn heneiddio’n gyflym, nid yw’n ymddangos bod gennych chi na'r Torïaid unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â phrinderau hirdymor cronig. Mae eich Llywodraeth wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond y cwbl y mae hwn yn ei wneud yw disodli arian a gollwyd. Nid yw’n gwneud dim i fynd i'r afael â galw yn y dyfodol. Brif Weinidog, sut mae eich Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffyg cyllid hirdymor a sicrhau bod anghenion gofal cymdeithasol y dyfodol yn cael eu diwallu?`