Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, os gwnaiff yr Aelod edrych ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd yn gweld yr ateb i'r cwestiwn hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y system. Gwyddom fod gwariant cyfunol ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol fesul pen yng Nghymru yn 2015-16 6 y cant yn uwch nag yn Lloegr, ac un o'r rhesymau pam y bu’n rhaid dod o hyd i arian ar fyr rybudd yn Lloegr yw oherwydd na neilltuwyd digon o arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr. Gwnaed y buddsoddiad gennym ni.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae'n bwysig cofio’r £60 miliwn yr ydym ni’n ei fuddsoddi drwy'r gronfa gofal canolraddol. Beth mae hynny’n ei olygu? Wel, roedd achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ar gyfer Chwefror 22 y cant yn is nag yn yr un cyfnod y llynedd, a’r mis hwn yw’r trydydd mis yn olynol pan fu’r cyfanswm yn is na 400, sy’n gyflawniad digynsail yn ystod y 12 mlynedd o gofnodi’r ystadegau hyn.